1 Gwrandêwch, diroedd tramor, arnaf,
Ac ystyriwch, bobloedd o bell;
Iehofah, o’r groth, a’m galwodd,
O ymysgaroedd fy mam y gwnaeth Efe goffa am fy enw,
2A gwnaeth fy ngenau fel cleddyf llym,
Ynghysgod Ei law y’m cuddiodd;
A gwnaeth fi yn saeth loyw,
Yn Ei gawell saethau y’m celodd:
3A dywedodd wrthyf Fy ngwas I tydi (ydwyt),
Israel, yr hwn ynot yr ymogoneddaf.
4A minnau a ddywedais, Yn ofer y llafuriais,
Am ddiddym a gwagedd fy nerth a ddyhyspyddais;
Er hynny (y mae) fy marn gydag Iehofah,
A’m llafur gyda ’m Duw.
5Ac yn awr medd Iehofah,
Yr Hwn a’m lluniodd o’r groth yn was Iddo,
I ddychwelyd Iacob atto Ef,
Ac er i Israel atto Ef ymgasglu,
Gan hynny gogoneddwyd fi yn ngolwg Iehofah,
A’m Duw yw fy nerth:
6Fel hyn medd Efe,
Ai gwaelach wyt nag y byddit i Mi yn was
I gyfodi llwythau Iacob,
A changennau Israel i’w dychwelyd (hwynt),
Ond Mi a ’th roddaf yn oleuni i’r cenhedloedd,
I fod, i Mi, yn Iachawdwriaeth hyd eithaf y ddaear.
7Fel hyn y dywed Iehofah,
Adbrynwr Israel, ei Sanct ef,
Wrth yr hwn sy’n dirmygu ei enaid, wrth yr hwn sydd ffiaidd gan y genedl,
Wrth was y llywodraethwŷr;
Brenhinoedd a’i gwelant (ef) ac a gyfodant,
Tywysogion (hefyd), ac a ymgrymmant,
Er mwyn Iehofah, yr Hwn sydd ffyddlawn,
Sanct Israel, canys Efe a’th ddewisodd di.
8Fel hyn y dywed Iehofah,
Yn amser cymmeradwyaeth y ’th wrandewais,
Ac yn nydd iachawdwriaeth y ’th gynnorthwyais;
A Mi a’th gadwaf, ac y ’th roddaf yn gyfammod y bobl,
I adferu ’r ddaear, i beri etifeddu yr etifeddiaethau anghyfanneddol,
9I ddywedyd wrth y rhai mewn rhwymau, Ewch allan,
Ac wrth y rhai mewn tywyllwch, Ymddangoswch.
Wrth ymyl y ffordd y porant hwy,
Ac ar yr holl uchelfannau (y bydd) eu porfa hwynt.
10Ni chânt newynu na sychedu,
Ac nis tery hwynt wres a haul,
O herwydd yr Hwn sy’n tosturio wrthynt a’u tywys,
Ac at fwrlymiaid dyfroedd yr arwain hwynt.
11A Mi a wnaf Fy holl fynyddoedd yn ffordd,
A’m sarnau a gyfodir yn uchel.
12Wele, y rhai hyn o bell a ddeuant,
Ac wele, y rhai hyn o’r gogledd ac o’r gorllewin,
A’r rhai hyn o wlad Sinim.
13Llawen-genwch, nefoedd; a gorfoledda, ddaear;
Bloeddiwch, fynyddoedd, â llawen-gân;
Canys cysurodd Iehofah Ei bobl,
Ac wrth Ei drueiniaid Efe a drugarhâ.
14Ond fe ddywed Tsïon, Gadawodd 2
Iehofah 1fi,A’m Harglwydd a’m hanghofiodd!
15A anghofia gwraig ei phlentyn sugno
Fel na thosturio wrth fab ei chroth?
Hyd y nod hwy a anghofiant;
Ond Myfi, nid anghofiaf di.
16Wele, ar gledr (Fy) nwylaw y’th argrephais,
Dy furiau (sy) ger Fy mron beunydd.
17Prysuro i’th adeiladu a wna ’r rhai a ’th ddinystriasant,
A’r rhai a’th ddistrywiasant a fyddant dy eppil.
18Dyrcha 『2dy lygaid』 『1oddi amgylch,』 a gwêl;
Hwy oll a ymgasglwyd, maent yn dyfod attat.
Byw Fi, medd Iehofah,
Dïau, hwy oll, fel harddwisg, a wisgi,
Ac y rhwymi hwynt (am danat), fel priodferch ei thlysau.
19Canys dy anialoedd a’th anghyfanneddleoedd,
A’th dir dinystriedig,
Yn ddïau, yn awr a fydd yn gyfyng i’r preswylwŷr,
Ac ym mhell y bydd y rhai oedd yn dy ddifetha.
20Etto yn dy 2glustiau fe 1ddywed plant dy ddieppiledd,
Cyfyng i mi y lle (hwn); dod le i mi fel y preswliwyf;
21A thi a ddywedi yn dy galon, Pwy a genhedlodd i mi y rhai hyn?
Canys myfi, dieppil (oeddwn), ac yn unig,
Yn gaeth, ac ar grwydr; gan hynny, y rhai hyn, pwy a’u magodd?
Wele, myfi, gadawedig oeddwn, ar fy mhen fy hun; gan hynny, y rhai hyn, pa le (y magwyd) hwy?
22Fel hyn y dywed yr Arglwydd Iehofah,
Wele, cyfodaf at y cenhedloedd Fy llaw,
Ac at y bobloedd y dyrchafaf Fy llumman,
A hwy a ddygant dy feibion yn (eu) mynwes,
A’th ferched ar ysgwyddau a ddygir;
23A bydd brenhinoedd yn dadmaethod i ti,
A’u brenhinesau yn fammaethod i ti;
Â’u gwynebau hyd at y llawr yr ymgrymmant i ti,
A llwch dy draed a lyfant hwy;
A chei wybod mai Myfi (yw) Iehofah,
Yr Hwn, ni chywilyddir y rhai a ddisgwyliant wrtho.
24A ddygir 『2yr ysglyfaeth』 『1oddi ar y cadarn?』
A chaethfab yr ofnadwy, a ddiangc efe?
25Ië, fel hyn y dywed Iehofah,
Hyd y nod caethfab y cadarn a ddygir (oddi arno),
Ac ysglyfaeth yr ofnadwy a ddiangc;
Canys â’th ymrysonydd Myfi a ymrysonaf,
Ac i ’th feibion Myfi a fyddaf Iachawdwr.
26A bwydaf dy orthrymmwŷr â’u cnawd eu hun;
Ac fel ar win newydd, ar eu gwaed eu hun y meddwant,
A gwybydd pob cnawd
Mai Myfi Iehofah (yw) dy Iachawdwr,
A’th Adbrynwr, Cadarn Iacob.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.