1Cân y graddau.
Y sawl a ymddiriedont yn Iehofah (sydd)
Fel mynydd Tsïon (yr hwn) ni syflir,
(Ond) yn dragywydd y mae ’n parhâu!
2Ierwshalem,—y mynyddoedd (sydd) o’i hamgylch hi;
Ac Iehofah (sydd) o amgylch Ei bobl,
O’r pryd hwn ac yn dragywydd:
3Canys ni orphwys gwialen annuwioldeb ar randir y cyfiawn rai,
Fel nad estyno ’r cyfiawn rai eu dwylaw at anwiredd!
4Gwna ddaioni, O Iehofah, i’r daionus rai,
Ac i’r rhai uniawn yn eu calonnau!
5Ond y rhai a ymdrônt i’w ffyrdd gwyrgeimion,
Gyrred Iehofah hwynt gyda gweithredwyr anwiredd!
Tangnefedd (a fo) ar Israel!
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.