I. Corinthiaid 9 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Nid wyf yn rhydd! Nid wyf yn apostol! Onid Iesu ein Harglwydd a welais? Onid fy ngwaith i ydych chwi yn yr Arglwydd?

2Os i eraill nad wyf apostol, beth bynnag i chwi yr wyf, canys sel fy apostoliaeth ydych chwi, yn yr Arglwydd.

3Fy amddiffyn i’r rhai sydd yn fy holi i, yw hyn.

4Onid oes genym awdurdod i fwytta ac i yfed?

5Onid oes genym awdurdod i arwain o amgylch chwaer o wraig, fel yr apostolion eraill, a brodyr yr Arglwydd, a Cephas?

6Ai yn unig myfi a Barnabas sydd heb genym awdurdod i fod heb weithio?

7Pwy sy’n milwrio un amser ar ei draul ei hun? Pwy sy’n plannu gwinllan, ac ei ffrwyth hi na fwytty? Neu pwy sy’n porthi praidd, ac o laeth y praidd na fwytty?

8Ai yn ol dyn yr wyf yn dywedyd y pethau hyn? Neu’r Gyfraith hefyd, ai’r pethau hyn na ddywaid?

9Canys yng Nghyfraith Mosheh yr ysgrifenwyd, “Ni rwymi safn ŷch yn dyrnu.”

10Ai dros yr ychen y gofala Duw, neu o’n hachos ni yn hollol y dywaid? O’n hachos ni, yn wir yr ysgrifenwyd, canys mewn gobaith y dylai’r arddwr aredig, a’r dyrnwr ddyrnu mewn gobaith o gyfrannogi.

11Os nyni a hauasom i chwi bethau ysprydol, ai mawr yw os nyni a fedwn eich pethau cnawdol chwi?

12Os eraill a gyfrannogant o’r awdurdod hon arnoch, onid mwy nyni a gawn? Eithr nid arferasom yr awdurdod hon; eithr pob peth a oddefwn, fel na roddom neb rhyw rwystr i Efengyl Crist.

13Oni wyddoch am y rhai sy’n offrymmu y pethau cyssegredig, mai y pethau o’r deml a fwyttant; a’r rhai sy’n gwasanaethu’r allor, â’r allor y mae eu cyfran?

14Felly hefyd yr Arglwydd a ordeiniodd i’r rhai sy’n cyhoeddi’r Efengyl, mai o’r Efengyl y mae iddynt fyw.

15Ond myfi nid arferais yr un o’r pethau hyn; ac ni ’sgrifenais y pethau hyn er mwyn felly y gwnelid tuag attaf, canys da i mi farw yn hytrach nag i’m hymffrost gael ei wneuthur yn wag gan neb:

16canys os efengylaf nid oes i mi ymffrost, canys angenrhaid a osodwyd arnaf, canys gwae fydd i mi os nad efengylaf;

17canys os o’m bodd y gwnaf hyn, gwobr sydd i mi; ond os o’m hanfodd, y ddisdeiniaeth a ymddiriedwyd i mi.

18Pa beth, gan hyny, yw’r gwobr i mi? Fel, wrth efengylu, y gwnelwyf yr Efengyl yn ddidraul, er mwyn peidio a llawn-arferu fy awdurdod yn yr Efengyl.

19Canys a myfi yn rhydd oddiwrth bawb, i bawb y gwnaethum fy hun yn gaethwas fel y rhan fwyaf yr ennillwn,

20ac aethum i’r Iwddewon megis Iwddew, fel yr Iwddewon yr ennillwn; i’r rhai tan y Gyfraith, megis tan y Gyfraith, a mi heb fod tan y Gyfraith, fel y rhai tan y Gyfraith yr ennillwn;

21i’r rhai digyfraith, megis digyfraith, a mi heb fod yn ddigyfraith i Dduw, eithr tan gyfraith i Grist, fel yr ennillwn y rhai digyfraith.

22Aethum i’r gweiniaid yn wan, fel y gweiniaid yr ennillwn. I bawb yr aethum yn bob peth, fel ymhob modd yr achubwn rai.

23A phob peth yr wyf yn ei wneud er mwyn yr Efengyl, fel y byddwyf yn gydgyfrannog o honi.

24Oni wyddoch fod y rhai sy’n rhedeg mewn rhedfa i gyd yn rhedeg, ond un sy’n derbyn y gwobr?

25Felly rhedwch, er mwyn derbyn o honoch. A phob un y sy’n ymdrechu yn y campau, ymhob peth y mae’n gymmedrol; hwynt-hwy yn wir fel y bo coron lygradwy i’w chael ganddynt; ond nyni, un anllygradwy.

26Myfi, gan hyny, wyf felly yn rhedeg fel nid mewn ansicrwydd;

27felly yr ymbaffiaf, fel nid yn curo’r awyr; eithr du-gleisio fy nghorph yr wyf, ac yn ei ddwyn yn gaeth, rhag mewn modd yn y byd, ar ol pregethu i eraill, i mi fy hun fod yn anghymmeradwy.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help