Pwy (yw) hwn sy’n dyfod o Edom?
Yn ddisglaer-goch ei ddillad, o Botsrah?
Yr hwn, ardderchog yn ei wisg,
Yn ymdaith ym mawredd ei rym?
(Atteb).Myfi, yn llefaru mewn cyfiawnder, nerthol i ddwyn iachawdwriaeth.
2(Côr).Pa ham yn goch dy wisg,
A’th ddillad fel eiddo yr hwn a sathrai mewn gwin-wrŷf?
3(Atteb).Y gwin-wrŷf a sethrais fy hunan,
Ac o’r bobloedd nid (oedd) neb gyda mi,
A sethrais hwynt yn fy nigofaint,
A methrais hwynt yn angerdd fy llid,
A thaenellwyd eu ffrydiau (gwaed) hwynt ar fy nillad,
A’m holl wisg a halogais.
4Canys dydd dial (oedd) yn fy nghalon,
A blwyddyn fy adbrynedigion a ddaeth:
5Ac edrychais, ac nid (oedd) a gynnorthwyai,
A rhyfeddais am nad (oedd) a gynhaliai;
Yna iachawdwriaeth i mi a wnaeth fy mraich,
Ac angerdd fy llid, efe a’m cynhaliodd:
6A sethrais y bobloedd yn fy nigofaint,
A briwiais hwynt yn angerdd fy llid,
A thywalltais ar lawr eu ffrydiau (gwaed.)
7 Trugareddau Iehofah a adgofiaf fi, (ië) moliant Iehofah,
Yn ol yr hyn oll a roddodd Iehofah i mi,
Ac (yn ol) amlder Ei ddaioni i dŷ Israel
Yr hyn a roddodd Efe iddynt yn ol Ei dosturiaethau ac yn ol amlder Ei drugareddau.
8Canys Efe a ddywedodd, Dïau Fy mhobl (yw) ’r rhai hyn, meibion na fyddant gau,
Ac Efe a fu iddynt yn Iachawdwr.
9Yn eu holl gyfyngder nid cenadwr neu angel Ei gynnrychioldeb (a fu) iachawdwr iddynt,
Yn ei gariad ac yn Ei drugaredd Efe a’u hadbrynodd,
Ac a’u cododd hwynt i fynu, ac a’u dug yr holl ddyddiau gynt.
10Ond hwythau a wrthryfelasant ac a ofidiasant yspryd Ei sancteiddrwydd Ef,
Fel y trowyd Ef 『2yn elyn』 1iddynt, ac yr 2ymladdodd Efe yn eu herbyn.
11Ac Efe a gofiodd y dyddiau gynt, Moses (a) ’i bobl,
Y modd y dygodd Efe hwynt i fynu o’r môr gyda bugail Ei braidd,
Y modd y gosododd Efe ynddo yspryd Ei sancteiddrwydd;
12Gan beri i 『3fraich Ei brydferthwch』 1fyned 『2ar ddeheulaw Moses,』
Gan hollti ’r dyfroedd o’u blaen hwynt, i wneuthur iddo Ei hun enw tragywyddol:
13Gan wneuthur iddynt fyned yn y dyfnderau; fel march ar borfa, ni thramgwyddasant;
14Fel y mae anifail i’r dyffryn yn disgyn, yspryd Iehofah a’u harweiniodd;
Ië, felly tywysaist Dy bobl i wneuthur it’ enw prydferthwch.
15Edrych o’r nefoedd, a gwêl o annedd Dy sancteiddrwydd a’th brydferthwch.
Lle (mae) dy zêl a’th gadernid,
Cynhyrfiad dy ymysgaroedd, a ’th drugareddau tuag attaf fi? a ymattaliasant?
16Canys Tydi (wyt) ein Tad ni,
O herwydd Abraham ni ’n hedwyn,
Ac Israel ni ’n cydnebydd;
Tydi, Iehofah, (wyt) ein Tad ni,
A’n Gwaredydd; erioed (y mae) Dy enw.
17Pa ham y gadewaist i ni gyfeiliorni, o Iehofah, allan o’th ffyrdd Di,
Ac y caledaist ein calonnau oddi wrth Dy ofn?
Dychwel er mwyn Dy weision, Llwythau Dy etifeddiaeth.
18Peth bychan yw am iddynt feddiannu pobl Dy sancteiddrwydd,
Am i’n gelynion fathru Dy gyssegr;
19Ni a fuom ennyd hir yn rhai na lywodraethaist drostynt,
Ac na alwyd Dy enw arnynt.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.