1Eiddo Shalomo.
O Dduw, Dy ddeddfau i’r Brenhin a roddych,
A Dy gyfiawnder i fab y Brenhin!
2Barned efe Dy bobl mewn cyfiawnder,
A’th drueiniaid yn ol deddf;
3(Yna) y dwg y mynyddoedd heddwch i’r bobl,
A’r bryniau, trwy gyfiawnder:
4Barned efe drueiniaid y bobl,
Cynhorthwyed feibion yr anghenus,
A dryllied y gorthrymmydd!
5Ofnont Di tra fyddo haul,
A thra fo lleuad, yn oes oesoedd!
6Disgyned efe fel gwlaw ar ddoldir cneifiedig,
Fel cawodydd, mawr-wlaw ’r ddaear!
7Blodeued y cyfiawn yn ei ddyddiau ef,
Ac amlder heddwch hyd na (fo) lleuad!
8Llywodraetha efe o fôr hyd fôr,
Ac o’r afon hyd eithafoedd y ddaear;
9Ger ei fron ef yr ymgrymma trigolion y crasdiroedd,
A’i elynion, y llwch a lyfant;
10Brenhinoedd Tarshish a’r ynysoedd, anrheg a dalant,
Brenhinoedd Sheba a Seba, rhodd a ddygant;
11A gwarogaethu iddo a wna ’r holl frenhinoedd,
Yr holl genhedloedd a’i gwasanaethant ef,
12O herwydd iddo achub yr anghenus yn galw am gymmorth,
A’r truan, a’r hwn nid (oedd) cynhorthwywr iddo,—
13Iddo dosturio wrth y tlawd a’r anghenus,
Ac eneidiau yr anghenogion (o herwydd) iddo eu gwared;
14(O herwydd) iddo oddi wrth orthrymder a thrais ryddhâu eu henaid,
Ac mai gwerthfawr (oedd) eu gwaed yn ei olwg;
15Fel y byddo (pob un) fyw, ac y rhoddo iddo ef o aur Sheba,
Ac y gweddïo drosto beunydd,
(Ac) yn wastad y bendithio ef.
16Bydded helaethrwydd o ŷd ar y ddaear, ar ben y mynyddoedd,
A chynhyrfu fel Lebanon a wnelo ei gynnyrch,
A blodeued (dynion) o’r ddinas, fel glaswellt y ddaear!
17Bydded ei enw ef yn dragywydd,
Tra fyddo haul cynnydded ei enw,
Ac Gwel Gen. 48:20.ymfendithied (dynion) ynddo ef,
Yr holl genhedloedd a’i galwont yn wynfydedig!
18Bendigedig (fo) Iehofah Duw, Duw Israel,
Gwneuthurwr rhyfeddodau, yr unig un!
19A bendigedig (fo) Ei enw gogoneddus yn dragywydd,
A llawn o’i ogoniant Ef a fyddo’r holl ddaear!
Amen ac Amen.
20Gorphen gweddïau Dafydd mab Ieshe.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.