1Deuwch, llawen-ganwn i Iehofah,
Codwn udgorn-floedd i Graig ein hiachawdwriaeth,
2Deuwn ger Ei fron Ef â diolch,
Ynghyda chaniadau codwn udgorn-floedd Iddo!
3Canys Duw mawr (yw) Iehofah,
A Brenhin mawr goruwch yr holl dduwiau;
4Yr Hwn, yn Ei law Ef (y mae) gorddyfnderau’r ddaear,
Ac uchelderau’r mynyddoedd (ŷnt) yn Eiddo;
5Yr Hwn bia’r môr, ac Efe a’i gwnaeth,
A’r sychdir, Ei ddwylaw Ef a’i lluniasant!
6Deuwch, gwarogaethwn ac ymgrymmwn,
Penliniwn ger bron Iehofah, ein Gwneuthurwr;
7Canys Efe (yw) ein Duw ni,
A nyni (ŷm) bobl Ei borfa a defaid Ei law,
(Ië) heddyw, os ar ei lais Ef y gwrandewch;
8 Na chaledwch eich calon megis ym Meribah,
Megis (yn) nydd gorphwysfa.”
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.