Diarhebion 20 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

XX.

1Gwatwarwr (yw)’r gwin, a thrystfawr y mêdd,

Ac a honcio ynddo ni bydd ddoeth.

2Fel rhuad llew (y mae) arswyd brenhin,

A’i hennyno ef (sy)’n pechu yn ei erbyn ei hun.

3Anrhydedd i wr (yw) trigo ymaith oddi wrth gynhen,

Ond pob ynfyd a ymennyna.

4O herwydd y gauaf, y swrth nid ardd,

Ymofyna yn y cynhauaf,—ond nid oes dim.

5 Dyfroedd dyfnion (yw) cynghor ynghalon dyn,

Ond gwr pwyllog a’i tynn allan.

6Llawer dyn a gyhoedda, bob un ei drugaredd,

Ond gwr ffyddlon,—pwy a’i caiff?

7A rodio yn ei uniondeb yn gyfiawn,

Gwŷn fyd ei feibion ar ei ol!

8Brenhin yn eistedd ar orsedd barn

A nithia â’i lygaid bob drwg.

9Pwy a ddywaid, “Purais fy nghalon,

Glân wyf oddi wrth fy mhechod?”

10Amryw bwysau, amryw fesurau,

Ffieiddbeth gan Iehofah (ŷnt) ill dau.

11Yn ddïau, trwy ei weithredoedd yr ymhyspysa bachgen,

Ai pur, ac ai uniawn (fydd) ei waith.

12Y glust a glywo, a’r llygad a welo,

Iehofah a’u gwnaeth ill dau.

13Na châr gwsg,—rhag tlodi o honot,

Agor dy lygaid,—gorddigonir di â bara.

14“Drwg, drwg,” medd y prynwr,

Ond wrth fyned ei ffordd, yna y’i cenmyl ei hun.

15Y mae aur ac amlder perlau,

Ond y llestr gwerthfawr (yw) gwefusau gwybodaeth.

16Cymmer ei wisg pan fechnïo (dyn) dros estron.

A thros ddïeithriad dwg wystl ganddo.

17Melus gan ddyn (yw) bara geudeb,

Ond wedi ’n y llenwir ei enau â graian.

18Bwriadau, trwy gynghor y sicrhêir hwy,

Ac â chyfarwyddiadau gwna ryfel.

19A ddatguddio gyfrinach a rodia yn athrodwr,

Ac a ledo ei wefusau, nac ymyrr (âg ef).

20A felldithio ei dad a ’i fam,

Diffoddir ei lusern yn nuder tywyllwch.

21Golud, ffrwyth cybydd-dod ar y cyntaf—

Ond ei ddiwedd ni fendithir.

22Na ddywed “Talaf ddrwg,”

Disgwyl wrth Iehofah, a chynnorthwya Efe di.

23Ffieiddbeth gan Iehofah (yw) amryw bwysau,

A chloriannau twyllodrus, nid peth da (ŷnt).

24Oddi wrth Iehofah (y mae) camrau gwr,

Ond dyn,—pa faint y deall efe ei ffordd?

25Magl i wr (yw) addaw ’n ehud beth sanctaidd,

Ac, ar ol (ei) addunedau, ymorol.

26Nithio ’r annuwiolion (y mae) brenhin doeth,

A thry efe arnynt yr olwyn.

27Llusern Iehofah (yw) yspryd dyn,

Yn chwilio holl ’stafelloedd y bôl.

28Trugaredd a ffyddlondeb a gadwant frenhin,

A thrwy drugaredd y cynnal efe ei orsedd.

29Prydferthwch llangciau (yw) eu nerth,

Ond addurn henafgwyr (yw) penllwydni.

30Cleisiau gwelïawg (ŷnt) gaboliad i ddrygioni,

A phwyadau ystafelloedd y bôl.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help