I. Corinthiaid 1 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Paul, apostol galwedig gan Iesu Grist, trwy ewyllys Duw,

2a Sosthenes, y brawd, at eglwys Dduw, yr hon sydd yn Corinth, wedi eu sancteiddio yng Nghrist Iesu, saint galwedig, ynghyda phawb y sy’n galw ar enw ein Harglwydd Iesu Grist ymhob man, eu Harglwydd hwy a ninnau.

3Gras i chwi a thangnefedd oddiwrth Dduw ein Tad, a Thad yr Harglwydd Iesu Grist.

4Diolch yr wyf i fy Nuw bob amser o’ch herwydd am y gras Duw a roddwyd i chwi yng Nghrist Iesu,

5am mai ymhob peth y’ch cyfoethogwyd chwi Ynddo Ef, ymhob ymadrodd a phob gwybodaeth,

6fel y bu i ddirgelwch Crist ei gadarnhau ynoch;

7fel nad ydych ar ol mewn un dawn,

8yn disgwyl am ddatguddiad ein Harglwydd, yr Hwn a’ch cadarnha hefyd hyd y diwedd yn ddiargyhoedd yn nydd ein Harglwydd Iesu Grist.

9Ffyddlawn yw Duw, trwy’r Hwn y’ch galwyd i gymdeithas Ei Fab Iesu Grist ein Harglwydd.

10Ac attolygaf i chwi, frodyr, trwy enw ein Harglwydd Iesu Grist, y bo i’r un peth gael ei lefaru genych oll, ac na bo yn eich plith sismau, ond bod o honoch wedi eich perffeithio yn yr un meddwl,

11ac yn yr un farn: canys amlygwyd i mi am danoch, fy mrodyr, gan y rhai o dŷ Chloe,

12mai cynhennau sydd yn eich plith; a hyn yw fy meddwl, fod pob un o honoch yn dywedyd, Myfi wyf o Paul; ac, Myfi o Apolos; ac, Myfi o Cephas; ac, Myfi o Grist.

13A rannwyd Crist? Ai Paul a groes-hoeliwyd trosoch? Ai i enw Paul y’ch bedyddiwyd?

14Diolch yr wyf i Dduw nad oes un o honoch a fedyddiais oddieithr Crispus a Gaius;

15fel na fo i neb ddweud mai i fy enw i y’ch bedyddiwyd.

16A bedyddiais hefyd dylwyth Stephanus. Heblaw hyny,

17nis gwn a oes neb arall a fedyddiais, canys ni ddanfonodd Crist fi i fedyddio, eithr i efengylu — nid mewn doethineb ymadrodd, fel na wagheid croes Crist.

18Canys ymadrodd y groes, i’r rhai sy’n myned ar goll, ffolineb yw; ond i ni y sy’n cael ein hachub, gallu Duw yw,

19canys ysgrifenwyd,

“Difethaf ddoethineb y doethion,

A deall y rhai deallus a ddiddymaf.”

20Pa le y mae’r doeth? Pa le y mae’r ysgrifenydd? Pa le y mae dadleuwr y byd hwn? Onid yn ynfydrwydd y trodd Duw ddoethineb y byd?

21Canys pan yn noethineb Duw, nad adnabu y byd, trwy ei ddoethineb, mo Dduw, gwelodd Duw yn dda trwy ffolineb y pregethu gadw y rhai sy’n credu;

22canys yr Iwddewon, arwydd a ofynant; a’r Groegwyr, doethineb a geisiant;

23ond nyni ydym yn pregethu Iesu Grist wedi Ei groes-hoelio, i’r Iwddewon yn dramgwydd, ac i’r cenhedloedd yn ffolineb;

24ond iddynt hwy a alwyd, Iwddewon a Groegwyr hefyd, Crist gallu Duw a doethineb Duw:

25canys ffolineb Duw, doethach na dynion yw; a gwendid Duw, cryfach na dynion yw.

26Canys edrychwch eich galwedigaeth, frodyr, nad llawer o ddoethion yn ol y cnawd, nad llawer o alluogion, nad llawer o foneddigion a alwyd;

27eithr ffol-bethau y byd a etholodd Duw, fel y cywilyddiai y doethion; a gwan-bethau y byd a etholodd Duw, fel y cywilyddiai y pethau cedyrn;

28a phethau difonedd y byd, a’r pethau dirmygus, a etholodd Duw;

29a’r pethau nad ydynt, fel y diddymai y pethau sydd, fel nad ymffrostiai un cnawd ger bron Duw.

30Ac o Hono Ef yr ydych chwi yng Nghrist Iesu, yr Hwn a wnaed i ni yn ddoethineb oddiwrth Dduw, ac yn gyfiawnder,

31ac yn sancteiddiad, ac yn brynedigaeth, er mwyn, fel yr ysgrifenwyd,

“Yr hwn sydd yn ymffrostio, yn yr Arglwydd ymffrostied.”

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help