S. Ioan 20 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Ac y dydd cyntaf o’r wythnos Mair Magdalen a ddaeth y bore, a hi etto yn dywyll, at y bedd; a gwelodd y maen wedi ei ddwyn ymaith oddiwrth y bedd.

2Rhedodd, gan hyny, a daeth at Shimon Petr, ac at y disgybl arall yr hwn oedd hoff gan yr Iesu, a dywedodd wrthynt, Dygasant yr Arglwydd o’r bedd, ac nis gwyddom pa le y dodasant Ef.

3Gan hyny, allan yr aeth Petr a’r disgybl arall, a daethant at y bedd:

4a rhedasant ill dau ar unwaith; ac y disgybl arall a rag-redodd yn gynt na Petr, ac a ddaeth yn gyntaf at y bedd;

5ac wedi ymgrymmu, gwelodd y llieiniau yn gorwedd, ond nid aeth i mewn.

6Yna y daeth Shimon Petr yn ei ganlyn ef, ac yr aeth i mewn i’r bedd, a chanfu y llieiniau yn gorwedd,

7a’r napcyn a fuasai am Ei ben, nid yn gorwedd gyda’r llieiniau, eithr wedi ei blygu yn rhyw le ar wahan.

8Yna, gan hyny, yr aeth y disgybl arall hefyd i mewn, yr hwn a ddaethai yn gyntaf at y bedd, a gwelodd, a chredodd;

9canys ni wyddent etto yr ysgrythyr fod rhaid Ei gyfodi o feirw.

10Gan hyny yr aeth y disgyblion ymaith drachefn i’w cartref.

11A Mair a safai wrth y bedd, oddi allan, yn gwylo; ac wrth wylo o honi ymgrymmodd i’r bedd;

12a chanfu ddau angel, mewn gwisgoedd gwynion, yn eistedd, un wrth y pen ac un wrth y traed o’r lle y gorweddodd corph yr Iesu;

13ac wrthi y dywedasant hwy, O wraig, paham y gwyli? Dywedodd wrthynt, Am ddwyn o honynt fy Arglwydd ymaith, ac na wn pa le y dodasant Ef.

14Wedi dywedyd hyn y trodd hi drach ei chefn, a chanfu yr Iesu yn sefyll; ac ni wyddai mai’r Iesu ydoedd.

15Wrthi y dywedodd yr Iesu, O wraig, paham y gwyli? Pwy a geisi? Hithau yn tybied mai y garddwr ydoedd, a ddywedodd Wrtho, Syr, os tydi a’i cymmeraist Ef, dywaid wrthyf pa le y dodaist Ef, ac myfi a’i dygaf Ef ymaith.

16Wrthi y dywedodd yr Iesu, Mair. Wedi troi o honi, hi a ddywedodd Wrtho, yn Hebraeg, Rabboni, yr hyn yw dywedyd, Athraw.

17Wrthi y dywedodd yr Iesu, Na chyffwrdd â Myfi, canys nid esgynais etto at y Tad; ond dos at Fy mrodyr, a dywaid wrthynt, Esgyn yr wyf at Fy Nhad a’ch Tad chwi, a’m Duw a’ch Duw chwi.

18Daeth Mair Magdalen gan fynegi i’r disgyblion, Gwelais yr Arglwydd, ac mai’r pethau hyn a ddywedasai Efe wrthi.

19Yna pan oedd yr hwyr y dydd hwnw, y cyntaf o’r wythnos, a’r drysau yn gauad lle yr oedd y disgyblion, rhag ofn yr Iwddewon, daeth yr Iesu, a safodd yn y canol, a dywedodd wrthynt, Tangnefedd i chwi.

20Ac wedi dywedyd hyn, dangosodd iddynt Ei ddwylaw ac Ei ystlys. Gan hyny y llawenychodd y disgyblion wrth weled yr Arglwydd.

21Gan hyny, wrthynt y dywedodd yr Iesu drachefn, Tangnefedd i chwi. Fel y danfonodd y Tad Fi, Myfi hefyd wyf yn eich gyrru chwi.

22Ac wedi dywedyd hyn, anadlodd arnynt, a dywedodd wrthynt, Derbyniwch yr Yspryd Glân.

23Pwy bynnag y maddeuoch eu pechodau, maddeuir hwy iddynt; a’r eiddo pwy bynnag a attalioch, attaliwyd hwynt.

24A Thomas, un o’r deuddeg, yr hwn a elwir Didymus, nid oedd gyda hwynt pan ddaeth yr Iesu.

25Gan hyny, wrtho y dywedodd y disgyblion eraill, Gwelsom yr Arglwydd. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Oni welaf yn Ei ddwylaw ol yr hoelion, a dodi o honof fy mys yn ol yr hoelion, a dodi o honof fy llaw yn Ei ystlys, ni chredaf ddim.

26Ac wedi wyth niwrnod, drachefn yr oedd Ei ddisgyblion i mewn, a Thomas gyda hwynt. Daeth yr Iesu, a’r drysau yn gauad, a safodd yn y canol, a dywedodd, Tangnefedd i chwi.

27Yna y dywedodd wrth Thomas, Moes dy fys yma, a gwel Fy nwylaw; a moes dy law, a dod yn Fy ystlys; ac na fydd anghredadyn, eithr yn gredadyn.

28Attebodd Thomas a dywedodd Wrtho, Fy Arglwydd ac fy Nuw.

29Wrtho y dywedodd yr Iesu, Am i ti Fy ngweled y credaist; gwyn eu byd y rhai na welsant, ac a gredasant.

30Llawer hefyd o arwyddion eraill a wnaeth yr Iesu yngwydd y disgyblion, y rhai nid ydynt ysgrifenedig yn y llyfr hwn;

31ac y pethau hyn a ysgrifenwyd fel y credoch mai yr Iesu yw y Crist, Mab Duw; a chan gredu y caffoch fywyd yn Ei enw Ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help