1Gorchymynaf i ti ger bron Duw a Christ Iesu, yr Hwn sydd ar fedr barnu y byw a’r meirw, a thrwy Ei ymddangosiad a’i deyrnas;
2pregetha’r Gair; bydd daer, mewn amser, allan o amser; argyhoedda, cerydda, annog, gyda phob hir-ymaros a dysgad;
3canys bydd amser pryd na fydd i athrawiaeth iachus mo’i dioddef ganddynt, eithr yn ol eu chwantau eu hunain iddynt eu hunain y pentyrrant ddysgawdwyr,
4gan ferwino o ran eu clyw, ac oddiwrth y gwirionedd y troant ymaith eu clustiau, ac at chwedlau y troant.
5Ond tydi, bydd sobr ym mhob peth; dioddef ddrygau; gwna waith efengylwr; dy weinidogaeth cyflawna:
6canys myfi wyf eisoes yn cael fy offrymmu, ac amser fy ymddattodiad sydd gerllaw.
7Yr ymdrech ardderchog a ymdrechais;
8y rhedeg a orphenais; y ffydd a gedwais; o hyn allan y mae mewn cadw i mi goron cyfiawnder, yr hon a rydd yr Arglwydd i mi yn y dydd hwnw, y Barnwr cyfiawn; ac nid yn unig i mi, eithr hefyd i bawb a garasant Ei ymddangosiad.
9Bydd ddyfal i ddyfod attaf ar fyrder, canys Demas a’m gadawodd i,
10wedi caru y byd presennol, ac a aeth i Thessalonica; Crescens i Galatia: Titus i Dalmatia; Luc sydd yn unig gyda mi.
11Marc cymmer a dwg ef gyda thi, canys y mae efe yn fuddiol i mi i’r weinidogaeth.
12Ond Tuchicus a ddanfonais i Ephesus.
13Y gochl a adewais yn Troas gyda Carpus, pan ddelych, tyred â hi; ac â’r llyfrau, yn enwedig y memrynnau.
14Alecsander y gof-copr, llawer o ddrygau a wnaeth efe i mi; iddo y tal yr Arglwydd yn ol ei weithredoedd;
15yr hwn, gwylia dithau hefyd rhagddo, canys yn ddirfawr y gwrthsafodd ein hymadroddion ni.
16Yn fy ymddiffyn cyntaf, nid oedd neb ynghyda mi, eithr pawb a’m gadawsant i:
17iddynt na chyfrifer: ond yr Arglwydd a safodd gyda mi ac a’m nerthodd, fel trwof fi y byddai i’r Cyhoeddiad ei gyflawni, ac y clywai’r holl genhedloedd; a gwaredwyd fi o enau’r llew.
18Gweryd yr Arglwydd fi oddiwrth bob gweithred ddrwg, ac a’m ceidw i’w deyrnas nefol; i’r Hwn y byddo’r gogoniant yn oes oesoedd. Amen.
19Annerch Prisca ac Acwila, a theulu Onesiphorus. Erastus a arhosodd yn Corinth.
20A Trophimus a adewais yn Miletus yn glaf.
21Bydd ddyfal cyn y gauaf i ddyfod. Dy annerch y mae Eubwlus a Pwdens a Linus a Claudia a’r brodyr oll.
22Yr Arglwydd fyddo gyda’th yspryd. Gras fyddo gyda chwi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.