Ephesiaid 5 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Byddwch, gan hyny, yn efelychwyr Duw, fel plant anwyl;

2a rhodiwch mewn cariad, fel y bu i Grist hefyd ein caru ni, ac y traddododd Ei hun trosom yn offrwm ac yn aberth i Dduw, o arogl peraidd.

3Ond godineb ac aflendid o bob math, neu gybydd-dra, nac enwer hwynt yn eich plith,

4fel y gwedda i saint; na budreddi, nac ymadrodd ffol, na choeg ddigrifwch, y rhai nid ydynt weddus;

5eithr yn hytrach rhoddi diolch; canys hyn a wyddoch yn llwyr, fod pob putteiniwr, neu aflan, neu gybydd, yr hyn sydd eulun-addolwr, heb iddo etifeddiaeth yn nheyrnas Crist a Duw.

6Na fydded i neb eich twyllo â geiriau gweigion; canys o achos y pethau hyn dyfod y mae digofaint Duw ar feibion anufudd-dod.

7Gan hyny, na fyddwch gyfranogion â hwynt;

8canys yr oeddych gynt yn dywyllwch, ond yn awr goleuni ydych yn yr Arglwydd;

9rhodiwch fel plant y goleuni; (canys ffrwyth y goleuni ymhob daioni a chyfiawnder a gwirionedd y mae,)

10gan brofi pa beth sydd foddlonol i’r Arglwydd; ac

11na fydded i chwi gymdeithas â gweithredoedd anffrwythlawn y tywyllwch, ond yn hytrach hyd yn oed argyhoeddwch hwynt;

12canys y pethau a wneir yn y dirgel ganddynt, cywilyddus yw hyd yn oed eu henwi;

13a phob peth, wrth gael ei argyhoeddi, gan y goleuni yr amlygir, canys pob peth y sy’n cael ei amlygu, goleuni yw;

14o herwydd paham y dywaid, “Deffro, yr hwn wyt yn cysgu, a chyfod o’r meirw, ac arnat y llewyrcha Crist.”

15Edrychwch, gan hyny, yn ofalus pa fodd y rhodiwch,

16nid fel annoethion, ond fel doethion, gan brynu’r amser;

17canys y dyddiau, drwg ydynt; am hyny, na fyddwch ynfydion, eithr yn deall pa beth yw ewyllys yr Arglwydd.

18Ac na feddwer chwi gan win, yn yr hyn y mae cyfeddach,

19eithr llanwer chwi â’r Yspryd, gan lefaru wrth eich gilydd mewn salmau a hymnau ac odlau ysprydol, gan ganu a pher-seinio â’ch calon i’r Arglwydd,

20gan ddiolch bob amser am bob peth yn enw ein Harglwydd Iesu Grist,

21i Dduw ein Tad, gan ymddarostwng i’ch gilydd yn ofn Crist.

22Y gwragedd, sef i’w gwŷr priod byddont fel i’r Arglwydd,

23canys y gŵr yw pen y wraig, fel y mae Crist hefyd yn ben yr eglwys, ac Efe yn iachawdwr y corph.

24Ond fel y mae’r eglwys yn ymddarostwng i Grist, felly gwnaed y gwragedd i’w gwŷr ymhob peth.

25Y gwŷr cerwch eich gwragedd, fel y bu i Grist hefyd garu yr eglwys, ac y traddododd Ef Ei hun drosti,

26fel y sancteiddiai hi, wedi ei glanhau hi â’r noe dwfr, trwy’r gair,

27ac y rhoddai Efe yr eglwys Iddo Ei hun, yn ogoneddus, heb arni na brycheuyn na chrychni, na dim o’r cyfryw bethau; eithr fel y byddai yn sanctaidd ac yn ddianaf.

28Felly y dylai’r gwŷr garu eu gwragedd fel eu cyrph eu hunain; yr hwn sy’n caru ei wraig, ef ei hun a gar efe:

29canys ni fu i neb erioed gasau ei gnawd ei hun, eithr ei fagu a’i feithrin y mae, fel y gwna Crist hefyd i’r eglwys,

30canys aelodau ydym o’i gorph Ef.

31“O achos hyn y gad dyn ei dad a’i fam, ac y glŷn wrth

32ei wraig, a byddant ill dau yn un cnawd.” Y dirgelwch hwn, mawr yw; ond yr wyf fi yn llefaru gyda golwg ar Grist a’r eglwys.

33Er hyny i gyd, chwychwi cymmain un, bydded i bob un felly garu ei wraig fel ef ei hun; a’r wraig, bydded iddi ofni ei gŵr.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help