1 Wele, ni chwttogodd llaw Iehofah fel na allo roi iachawdwriaeth,
Ac ni thrymhaodd Ei glust Ef fel na allo glywed;
2Eithr eich camweddau chwi (sy) ’n ysgaru
Rhyngoch chwi a’ch Duw,
A’ch pechodau a guddiasant
Ei wyneb Ef oddi wrthych, fel na chlywo.
3Canys eich dwylaw a halogwyd â gwaed,
A’ch bysedd âg anwiredd;
Eich gwefusau a draethasant gelwydd,
A’ch tafod, oferedd a hustyngodd.
4Nid (oes) a alwo (i farn) mewn cyfiawnder,
Ac nid (oes) a ymgyfreithio mewn gwirionedd;
Gan obeithio mewn gwagedd, a dywedyd celwydd,
Gan feichiogi ar flinder, ac esgor ar anwiredd.
5Wyau ’r asp a ddëorant hwy,
A gwëoedd y pryfcoppyn a wëant;
Yr hwn a fwytty o’u hwyau a fydd marw,
A phan dorrir (un), dëorir gwiber.
6Eu gwëoedd hwy ni fyddant yn wisg,
Ac nid ymddilladant â ’u gweithredoedd;
Eu gweithredoedd (sydd) weithredoedd anwiredd,
A gwaith trawsder (sydd) yn eu dwylaw.
7Eu traed i ddrygioni a ânt ar redeg,
A brysiant i dywallt gwaed gwirion;
Eu meddyliau yn feddyliau anwiredd,
Distryw a drylliad (sydd) yn eu prif-ffyrdd.
8Ffordd heddwch nid adwaenant,
Ac nid (oes) barn yn eu holion;
Eu llwybrau, hwy a gŵyr-droisant iddynt eu hunain,
Pob un a rodio ynddynt nid edwyn heddwch.
9 Gan hynny pell yw barn oddi wrthym,
Ac ni ’n goddiwedda cyfiawnder;
Disgwyl yr ydym am oleuni, ond wele dywyllwch,
Am ddisglaerdeb, ond yn y fagddu yr ŷm yn rhodio.
10Palfalu yr ydym, fel deillion, â ’r pared,
Ac fel rhai heb lygaid yn palfalu;
Tramgwyddo yr ydym ar hanner dydd, fel y cyfnos,
Mewn (maesydd) breision, fel rhai meirw.
11Rhuo yr ydym fel eirth, pob un o honom,
Ac fel colommenod gan riddfan yr ŷm yn griddfan;
Disgwyl yr ydym am farn, ac nid (oes dim),
Am iachawdwriaeth, a phell yw oddi wrthym.
12Canys amlhaodd ein camweddau ger Dy fron,
A’n pechodau sy’n tystiolaethu i’n herbyn;
Canys ein camweddau (sy) gyda ni,
A’n hanwireddau, ni a’u hadwaenom:
13Gan gamweddu a dywedyd celwydd yn erbyn Iehofah,
A chan gilio oddi ar ol ein Duw;
Gan lefaru trawsder a gwrthgil,
Gan feichiogi ar, a thraethu o’r galon, eiriau gau.
14Ac yn ei hol y tröwyd barn,
A chyfiawnder sydd o hirbell yn sefyll;
Canys cwymp yn yr heol a ddigwyddodd i wirionedd,
Ac uniondeb ni allodd ddyfod i mewn.
15Ac y mae gwirionedd yn adawedig,
A’r hwn a gilio oddi wrth ddrygioni a’i gwna ei hun yn yspail;
A gwelodd Iehofah (hyn),
A drwg oedd yn Ei olwg Ef nad (oedd) barn:
16Ac Efe a welodd nad (oedd un) dyn,
Ac ymryfeddodd nad (oedd) eiriolwr;
Yna y gwnaeth Ei 3fraich 1iachawdwriaeth 2Iddo,
A’I gyfiawnder, hyn â’i cynhaliodd.
17A gwisgodd gyfiawnder fel llurig,
Ac helm iachawdwriaeth ar Ei ben,
A gwisgodd wisgoedd dïal yn ddillad,
Ac ymorchuddiodd â 2zel, 『1megis â chochl.』
18Yn ol gweithredoedd,
Yn eu hol y tâl Efe,
(Sef) llid i’w wrthwynebwŷr, taledigaeth i’w elynion,
I’r gwledydd pell (eu) gweithred a dâl Efe.
19Ac fe ofna (y rhai) o’r gorllewin enw Iehofah,
A (’r rhai) o godiad haul Ei ogoniant Ef,
Pan ddêl Efe fel afon danbaid
A gwŷnt nerthol yn ei gyru hi.
20Ond fe ddaw’r 2adbrynwr i 1Tsïon
Ac efe a dŷr ymaith annuwioldeb oddi wrth Iacob, medd Iehofah;
21A Myfi, hwn (yw) Fy nghyfammod â hwynt, medd Iehofah;
Fy yspryd yr hwn (sydd) arnat,
A’m geiriau, y rhai a osodais yn dy enau,
Ni chiliant o’th enau
Ac o enau dy hâd
Ac o enau hâd dy hâd, medd Iehofah,
O hyn allan hyd dragywyddoldeb.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.