Iwdas 1 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Iwdas, gwas i Iesu Grist, a brawd i Iago, at y galwedigion, anwyl yn Nuw Dad, a chadwedig i Iesu Grist.

2Trugaredd i chwi, a thangnefedd a chariad a amlhaer.

3Anwylyd, wrth wneuthur pob diwydrwydd i ysgrifenu attoch ynghylch ein hiachawdwriaeth gyffredinol ni, bu rhaid i mi ysgrifenu attoch, gan eich cynghori i ymdrechu dros y ffydd a roddwyd unwaith am byth i’r saint;

4canys daeth i mewn yn ddirgel ryw ddynion, y rhai er ys talm a rag-ysgrifenwyd i’r condemniad hwn, annuwiolion, a gras ein Duw yn cael ei droi ganddynt i drythyllwch, a’n hunig Feistr ac Arglwydd Iesu Grist yn cael Ei wadu ganddynt.

5Ond ewyllysiaf eich coffau, a chwi yn gwybod unwaith am byth bob peth, i’r Arglwydd, wedi gwaredu o Hono bobl o dir yr Aipht, wedi hyny ddistrywio y rhai na chredasant;

6ac angylion, y rhai ni chadwasant eu llywodraeth eu hunain, eithr a adawsant eu trigfa eu hunain, i farn y dydd mawr, mewn rhwymau tragywyddol, tan dywyllwch y’u cadwodd.

7Fel y mae Sodom a Gomorrah, a’r dinasoedd o’u hamgylch, wedi iddynt yn y cyffelyb fodd a’r rhai hyn, butteinio a myned ar ol cnawd dieithr, yn gorwedd o’n blaen yn esampl, gan ddioddef cospedigaeth tân tragywyddol.

8Yr un ffunud, er hyny, y rhai hyn hefyd, gan freuddwydio, y cnawd a halogant, a llywodraeth a ddiystyrant, a gogoniannau a gablant:

9ond Michael yr arch-angel, pan â diafol yr ymddadleuai, ac yr ymresymmai ynghylch corph Mosheh, ni feiddiodd ddwyn yn ei erbyn farn gablaidd, eithr dywedodd, Cerydded yr Arglwydd di.

10Ond y rhai hyn, cymmaint o bethau ag na wyddant, a gablant; a chymmaint o bethau ag wrth naturiaeth, fel yr anifeiliaid direswm, a wyddant, yn y rhai hyn yr ymlygrant.

11Gwae iddynt! canys yn ffordd Cain yr aethant, ac ynghyfeiliornad Balaam, er cyflog y rhuthrasant, ac yngwrth-ddywediad Core y darfu am danynt.

12Y rhai hyn yw’r rhai sydd yn eich cariad-wleddoedd yn greigiau cuddiedig, yn cyd-wledda â chwi, heb ofn yn porthi eu hunain; cymmylau diddwfr, yn cael gan wyntoedd eu dwyn ymaith; preniau hydrefol heb ffrwyth,

13dwywaith yn feirw, wedi eu diwreiddio, tonnau gwylltion y môr, yn ewynnu allan eu cywilyddion eu hunain; ser gwibiog, i’r rhai y mae duder y tywyllwch yn dragywydd wedi ei gadw.

14Ac am y rhai hyn y prophwydodd hefyd y seithfed o Adam, Chenoc, gan ddywedyd, “Wele, daeth yr Arglwydd â’i fyrddiynnau sanctaidd,

15i wneuthur barn ar bawb, ac i argyhoeddi yr holl rai annuwiol, am holl weithredoedd eu hannuwioldeb y rhai a wnaethant yn annuwiol, ac am yr holl bethau caledion, y rhai a lefarodd pechaduriaid annuwiol yn Ei erbyn.”

16Y rhai hyn ydynt rwgnachwyr, tuchanwyr; yn ol eu chwantau y cerddant (ac eu genau sy’n llefaru tra-chwyddedig bethau,) yn edmygu gwynebau er mwyn budd.

17Ond chwychwi, anwylyd, cofiwch y geiriau a rag-ddywedwyd gan apostolion ein Harglwydd Iesu Grist;

18ddywedyd o honynt wrthych, Yn yr amser diweddaf y bydd gwatwarwyr, yn rhodio yn ol eu chwantau annuwiol eu hunain.

19Y rhai hyn yw’r rhai sy’n didoli eu hunain, yn anianol, heb yr Yspryd ganddynt.

20Ond chwychwi, anwylyd, gan adeiladu eich hunain ar eich sancteiddiaf ffydd,

21gan weddïo yn yr Yspryd Glân, cedwch eich hunain ynghariad Duw, gan edrych am drugaredd ein Harglwydd Iesu Grist i fywyd tragywyddol.

22Ac wrth rai trugarhewch, wrth ammeu o honynt;

23a rhai achubwch, gan eu cipio allan o’r tân; ac wrth rai trugarhewch, mewn ofn, gan gasau hyd yn oed y wisg a frychwyd gan y cnawd.

24Ac i’r hwn sydd yn abl i’ch cadw heb dripio, a’ch gosod ger bron Ei ogoniant yn ddianaf,

25mewn gorfoledd, i’r unig Dduw ein Hiachawdwr, trwy Iesu Grist ein Harglwydd, bydded gogoniant, mawredd, gallu, ac awdurdod, cyn pob amser, ac yr awr hon, ac yn dragywydd. Amen.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help