Psalmau 62 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

LXII.

1I’r blaengeiniad, (sef) i chwi i gyd,

Fel (ped fai) yn fagwyr ogwyddedig,

Yn bared a wthiwyd i lawr?

5Yn unig i’w wthio ef i lawr o’i ucheldra yr ymgynghorasant hwy,

Hoffant gelwydd,

A’u geneuau y bendithiant, ond o’u mewn y melldithiant: Selah.

6Yn unig wrth Dduw (y mae) distaw ddisgwyliad fy enaid,

Canys oddi wrtho Ef (y mae) fy ngobaith;

7Yn unig Efe (yw) fy nghraig a’m hiachawdwriaeth,

Fy uchelfa: ni’m hysgogir!

8Ar Dduw (yr ymddibyna) fy nghymmorth a’m gogoniant,

Fy nghraig gadarn, fy noddfa (sydd) yn Nuw.

9Ymddiriedwch ynddo Ef bob amser, O bobl,

Tywelltwch, ger Ei fron Ef, eich calonnau,

Duw (sydd) noddfa i ni. Selah.

10Tarth yn unig (yw) meibion dynion, geudeb (yw) meibion gwŷr,

Yn y clorian yr esgynant,

Hwynt-hwy (ŷnt ysgafnach) na tharth, i gyd.

11Nac ymddiriedwch mewn trais,

Ac mewn anrhaith na wag-obeithiwch,

Ar gyfoeth, os cynnydda, na ddodwch (eich) calon!

12Un waith y dywedodd Duw,

Dwywaith hyn a glywais i,

“Fod y cadernid gan Dduw:”

13A chennyt Ti, O Dduw, (y mae) rhadlondeb,

Canys Tydi wyt yn talu i ddyn yn ol ei weithred.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help