1Yr henuriad at Gaius yr anwylyd, yr hwn yr wyf fi yn ei garu mewn gwirionedd.
2Anwylyd, gweddïaf am i ti ym mhob peth lwyddo, a bod yn iach, fel mai llwyddo y mae dy enaid di:
3canys llawenychais yn ddirfawr wrth ddyfod o frodyr a thystiolaethu i’th wirionedd di, fel yn y Gwirionedd yr wyt ti yn rhodio.
4Mwy llawenydd na hyn nid oes genyf, sef clywed o honof am fy mhlant yn rhodio yn y Gwirionedd.
5Anwylyd, peth ffyddlawn yr wyt yn ei wneuthur ym mha beth bynnag a weithredi tuag at y brodyr, a hyn hefyd, a hwy yn ddieithriaid,
6y rhai a dystiolaethasant i’th gariad di ger bron yr Eglwys; y rhai, da y gwnai gan eu hebrwng mewn modd teilwng o Dduw;
7canys er mwyn Yr Enw yr aethant allan heb gymmeryd dim gan y cenhedloedd.
8Nyni, gan hyny, a ddylem dderbyn y cyfryw rai, fel mai cydweithwyr y byddom â’r Gwirionedd.
9Ysgrifenais ryw faint at yr Eglwys; eithr yr hwn sy’n chwennych bod yn gyntaf yn eu plith, sef Diotrephes, ni dderbyn mo honom.
10Gan hyny, os deuaf, dygaf ar gof ei weithredoedd ef y rhai y mae efe yn eu gwneuthur, gan wag-siarad â geiriau drwg i’n herbyn; ac heb ei ddigoni â hyn, nid yw efe ei hun yn derbyn y brodyr; a’r rhai sy’n ewyllysio, eu rhwystro y mae, ac allan o’r Eglwys y’u teifl.
11Anwylyd, nac efelycha yr hyn sydd ddrwg, eithr yr hyn sydd dda; yr hwn sy’n gwneuthur yr hyn sydd dda, o Dduw y mae; yr hwn sy’n gwneuthur yr hyn sydd ddrwg, ni welodd Dduw.
12I Demetrius y tystiolaethwyd gan bawb, a chan y Gwirionedd ei hun; ac nyni hefyd ydym yn tystiolaethu; a gwyddost am ein tystiolaeth mai gwir yw.
13Llawer o bethau oedd genyf i’w hysgrifenu attat, eithr ag ingc a phin nid wyf yn foddlawn i ysgrifenu attat ti;
14ond gobeithio yr wyf dy weled yn ebrwydd; a gwyneb yn wyneb yr ymddiddanwn.
15Tangnefedd i ti. Dy annerch y mae’r cyfeillion. Annerch y cyfeillion wrth eu henwau.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.