1Ar ol mewn llawer rhan ac mewn llawer modd gynt lefaru o Dduw wrth y tadau, yn y prophwydi, yn niwedd y dyddiau hyn llefarodd wrthym yn Ei Fab,
2yr Hwn a osododd Efe yn etifedd pob peth, trwy’r Hwn hefyd y gwnaeth Efe y bydoedd;
3yr Hwn, ac Efe yn ddisgleirdeb Ei ogoniant Ef, ac yn wir lun Ei hupostasis, ac yn cynnal pob peth â gair Ei allu, wedi gwneuthur glanhad pechodau, a eisteddodd ar ddeheulaw y Mawredd yn yr uchelion,
4wedi myned yn gymmaint gwell na’r angylion ag yr etifeddodd enw mwy rhagorol na hwy,
5canys wrth ba un o’r angylion y dywedodd Efe erioed,
“Fy Mab ydwyt ti;
Myfi heddyw a’th genhedlais?”
a thrachefn,
“Myfi fyddaf Iddo yn Dad,
Ac Efe fydd i Mi yn Fab?”
6A phan drachefn y dug Efe y Cyntaf-anedig i’r byd, dywedyd y mae,
“Ac Ef addoled holl angylion Duw.”
7Ac o ran yr angylion y dywaid,
“Yr Hwn sy’n gwneuthur yn genhadon Iddo y gwyntoedd;
Ac yn weinidogion Iddo, y tân fflamllyd;”
8ond o ran y Mab,
“Dy orseddfaingc, O Dduw, yn oes oesoedd y mae,
A theyrn-wialen uniondeb yw teyrn-wialen Dy deyrnas.
9Ceraist gyfiawnder, a chaseaist anghyfraith;
Gan hyny yr enneiniodd Duw Di, Dy Dduw,
Ag olew gorfoledd, tu hwnt i’th gyfeillion.”
10Ac,
“Tydi yn y dechreuad, Arglwydd, y ddaear a sylfaenaist,
A gwaith Dy ddwylaw yw’r nefoedd;
11Hwy a ddarfyddant, ond Tydi wyt yn parhau;
A’r oll o honynt, fel dilledyn a heneiddiant,
12Ac fel mantell y plygi hwynt;
Fel cochl, a newidir hwynt;
Ond Tydi yr un ydwyt,
A’th flynyddoedd ni phallant.”
13Ond wrth ba un o’r angylion y dywedodd Efe erioed,
“Eistedd ar fy neheu-law
Hyd oni osodwyf dy elynion yn droed-faingc dy draed?”
14Onid yw’r oll o honynt yn ysprydion gwasanaethgar, yn cael eu danfon i wasanaethu er mwyn y rhai sydd ar fedr etifeddu iachawdwriaeth?
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.