1Ac yn y dyddiau hyny dyfod y mae Ioan Fedyddiwr, gan bregethu yn anialwch Iwdea,
2gan ddywedyd, Edifarhewch, canys nesaodd teyrnas nefoedd:
3canys Hwn yw Efe y dywedwyd am dano trwy Eshaiah y prophwyd, gan ddywedyd,
“Llef un yn llefain,
Yn yr anialwch, parottowch ffordd Iehofah;
Gwnewch yn uniawn Ei lwybrau Ef.”
4A’r Ioan hwn oedd â’i ddillad o flew camel, a gwregys o groen ynghylch ei lwynau; a’i fwyd oedd locustiaid a mêl gwyllt.
5Yna yr aeth allan atto ef Ierwshalem, a holl Iwdea, a’r holl wlad o amgylch yr Iorddonen;
6a bedyddiwyd hwy yn yr afon Iorddonen ganddo ef, gan gyffesu eu pechodau.
7A chan weled llawer o’r Pharisheaid a’r Tsadwceaid yn dyfod i’w fedydd, dywedodd wrthynt, O eppil gwiberod, pwy a’ch rhybuddiodd i ffoi rhag y llid a fydd?
8Dygwch, gan hyny, ffrwyth teilwng o edifeirwch;
9ac na feddyliwch ddywedyd ynoch eich hunan, Yn dad i ni y mae genym Abraham, canys dywedaf wrthych, Abl yw Duw o’r meini hyn i gyfodi plant i Abraham.
10Ac eisoes y fwyall a osodwyd ar wreiddyn y preniau: pob pren, gan hyny, nad yw’n dwyn ffrwyth da a dorrir ymaith ac a deflir i’r tân.
11Myfi, yn wir, wyf yn eich bedyddio â dwfr, i edifeirwch; ond yr Hwn sy’n dyfod ar fy ol i, cryfach yw na myfi, yr Hwn nid wyf deilwng i ddwyn Ei esgidiau: Efe a’ch bedyddia chwi â’r Yspryd Glân ac â thân: yr Hwn y mae Ei wyntyll yn Ei law;
12a llwyr-lanhâ Efe ei lawr-dyrnu, a chyd-gasgl Ei wenith i’r ysgubor, ond yr ûs a lwyr-lysg Efe â thân anniffoddadwy.
13Yna y daeth yr Iesu o Galilea i’r Iorddonen at Ioan, i’w fedyddio ganddo;
14ond Ioan a warafunodd Iddo, gan ddywedyd, Arnaf fi y mae eisiau fy medyddio gennyt Ti, ac a wyt Ti yn dyfod attaf fi?
15Ond gan atteb, yr Iesu a ddywedodd wrtho ef, Gâd yn awr; canys fel hyn y mae’n weddus i ni gyflawni pob cyfiawnder. Yna y gadawodd efe Iddo.
16Ac wedi Ei fedyddio, yr Iesu a aeth i fynu yn uniawn o’r dwfr, ac wele, agorwyd y nefoedd Iddo, a gwelodd Yspryd Duw yn disgyn fel colommen, ac yn dyfod arno Ef;
17ac wele, llais o’r nefoedd yn dywedyd, Hwn yw Fy Mab Anwyl, yn yr Hwn y’m Boddlonwyd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.