1Y drydedd waith yw hon yr wyf yn dyfod attoch;
2“Yngenau dau dyst, neu dri, sefydlir pob gair.” Rhag-ddywedais, a rhag-ddywedyd yr wyf, fel pan yn bresennol yr ail waith, ac yr awr hon yn absennol, wrth y rhai a bechasant eisoes, ac wrth y lleill i gyd, os deuaf drachefn, nad arbedaf;
3gan mai ceisio prawf yr ydych o Grist y sy’n llefaru ynof, yr Hwn tuag attoch chwi nid yw wan, eithr galluog yw ynoch;
4canys croes-hoeliwyd Ef trwy wendid, eithr byw y mae trwy allu Duw; canys nyni hefyd ydym weiniaid Ynddo Ef, eithr byw fyddwn gydag Ef trwy allu Duw tuag attoch.
5Chwi eich hunain profwch a ydych yn y ffydd: o honoch eich hunain gwnewch brawf. Onid adnabyddwch eich hunain fod Iesu Grist ynoch chwi, oddieithr mai anghymmeradwy ydych?
6Ond gobeithiaf y gwybyddwch nad ydym ni yn anghymmeradwy.
7A gweddïo ar Dduw yr ydym na wneloch ddim sy ddrwg; nid fel y bo i ni ymddangos yn gymmeradwy, eithr fel y bo i chwi wneuthur yr hyn sydd dda, er i ni fod fel yn anghymmeradwy.
8Canys nis gallwn ddim yn erbyn y gwirionedd, eithr tros y gwirionedd.
9Canys llawenychwn pan fyddom ni yn weiniaid, a chwychwi yn gryfion; ac am hyn y gweddïwn, sef eich perffeithiad chwi.
10Gan hyny, y pethau hyn yn fy absennoldeb yr wyf yn eu hysgrifenu, fel, pan yn bresennol, nad arferwyf doster yn ol yr awdurdod y bu i’r Arglwydd ei rhoddi i mi er adeiladaeth, ac nid er tynnu i lawr.
11Yn ddiweddaf, frodyr, byddwch iach; perffeithier chwi; diddaner chwi; yr un peth syniwch; heddychol byddwch; a Duw’r cariad a heddwch fydd gyda chwi.
12Annerchwch eich gilydd â chusan sanctaidd.
13Eich annerch y mae y saint oll.
14Gras yr Arglwydd Iesu Grist, a chariad Duw, a chyfundeb yr Yspryd Glân, a fyddont gyda’r oll o honoch.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.