Psalmau 89 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

LXXXIX.

1Awdl addysgiadol. I ‘Gwnaethum ammod â’m hetholedig,

Tyngais i’m gwas Dafydd

5Yn dragywydd y sicrhâf dy hâd,

Ac adeiladaf, o genhedlaeth i genhedlaeth, dy orseddfaingc:’ ” Selah.

6A molianna ’r nefoedd Dy ryfeddod, O Iehofah,

A’th ffyddlondeb, ynghynnulleidfa ’r sanctaidd rai;

7Canys pwy yn y nefoedd a gystedlir â Iehofah,

A gyffelybir â Iehofah ym mysg meibion Duw?

8—Duw arswydus (yw) Efe ynghymmanfa ’r sanctaidd rai, (ïe) yn ddirfawr,

Ac ofnadwy uwchlaw ’r oll o’i amgylch.

9O Iehofah, Duw y lluoedd,

Pwy fel Tydi (sydd) gadarn, O Iah?

A’th ffyddlondeb (sydd) o’th amgylch!

10Tydi (wyt) yn llywodraethu ymddyrchafiad y môr,

Pan gyfodo ei donnau, Tydi a’u dyhuddi!

11Tydi a gymmriwiaist yr Aipht, fel un lladdedig,

A’th fraich gadarn y gwasgeraist Dy elynion:

12Eiddot Ti (yw)’r nefoedd, ac eiddot Ti (yw)’r ddaear,

Y byd a’i gyflawnder, Tydi a’u seiliaist:

13Y gogledd a’r dehau, Tydi a’u crêaist,

Tabor a Hermon, yn Dy enw Di y gorfoleddant:

14Eiddot Ti (yw)’r fraich gyda chadernid,

Cadarn yw Dy law, uchel yw Dy ddeheulaw;

15Cyfiawnder a barn (ŷnt) sail Dy orseddfaingc,

Trugaredd a ffyddlondeb sy’n rhagflaenu Dy wyneb!

16Gwyn fyd y bobl a adwaenant yr udgorn-floedd,

O Iehofah, yn llewyrch Dy wyneb yr ymrodiant,

17Ac yn Dy enw Di y gorfoleddant bob dydd,

Ac yn Dy gyfiawnder yr ymddyrchafant!

18Canys eu prydferthwch godidog (wyt) Tydi,

Ac yn Dy ewyllys da yr ymddyrchafa ein corn,

19Canys eiddo Iehofah (yw) ein tarian,

Ac eiddo Sanct yr Israel (yw) ein brenhin.

20Cyn hyn y lleferaist mewn gweledigaeth i’th sanct,

A dywedaist “Gosodais gymmorth ar wron,

Dyrchefais (un) etholedig o’r bobl,

21Cefais Ddafydd Fy ngwas,

A’m holew sanctaidd yr eneinniais ef;

22Yr hwn, Fy llaw fydd ddiysgog gydag ef,

A’m braich a’i nertha;

23Yn echwynwr ni chaiff gelyn fod (i bwyso) arno,

A phlentyn anwiredd ni chaiff ei gystuddio;

24Chwilfriwiaf ei elynion o’i flaen ef,

A’i gaseion a darawaf;

25A’m ffyddlondeb a’m trugaredd (fyddant) gydag ef,

Ac yn Fy enw yr ymddyrchafa ei gorn;

26 A gosodaf ar y môr ei law ef,

Ac ar yr afonydd ei ddeheulaw;

27Yntau a lefa Arnaf, ‘Fy Nhad Tydi (ydwyt)

Fy Nuw, a Chraig fy iachawdwriaeth?’

28A Myfi hefyd,—yn gynfab y’i gwnaf ef,

Yn uchel goruwch brenhinoedd y ddaear;

29Yn dragywydd y cadwaf iddo Fy nhrugaredd,

A’m cyfammod fydd sicr iddo;

30A gosodaf ei hâd am byth,

A’i orseddfaingc fel dyddiau ’r nefoedd.

31Os ymedy ei feibion â’m cyfraith,

Ac yn fy nghynreithiau ni rodiant,

32Os Fy neddfau a halogant,

A’m gorchymynion ni chadwant,

33Yna yr ymwelaf â gwialen â’u camwedd,

Ac â phläau â’u hanwireddau:

34Ond Fy nhrugaredd ni thorraf oddi wrtho ef,

Ac ni fyddaf anffyddlon yn Fy ngwirionedd,

35Ni halogaf Fy nghyfammod,

A’r hyn a ddaeth allan o’m genau ni newidiaf.

36 Unwaith y tyngais i’m Sancteiddrwydd,

Yn ddiau, i Ddafydd ni chelwyddaf;

37Ei hâd ef yn dragywydd a fydd,

A’i orseddfaingc, fel yr haul, ger Fy mron,

38Fel y lleuad y sefydlir hi yn dragywydd,

Ac fel y tyst yn y nef sicr fydd hi.” Selah.

39Ond Tydi a wrthodaist, ac a ffieiddiaist,

A ddigiaist wrth Dy eneinniog,

40A fwriaist ymaith gyfammod Dy was,

A halogaist, (gan ei thaflu) i lawr, ei goron ef,

41A ddrylliaist ei holl gaeau,

A wnaethost ei ymddiffynfëydd yn adfail;

42Ei yspeilio y mae holl dramwywyr y ffordd,

Aeth yn waradwydd gan ei gymmydogion;

43Dyrchefaist law ei orthrymwyr,

Llawenhëaist ei holl elynion,

44Ië, dychwelaist fin ei gleddyf,

Ac ni chedwaist ef i fynu yn y rhyfel;

45Rhoddaist ddiwedd ar ei ddisgleirdeb,

A’i orseddfaingc, i lawr y’i bwriaist;

46Byrhëaist ddyddiau ei ieuengctid,

Gorchuddiaist ef â chywilydd! Selah.

47Hyd ba hyd, O Iehofah? A ymguddi am byth?

Ai llosgi fel tân a wna Dy angerdd?

48Cofia, attolwg, beth (yw) bywyd,

Ar y fath wagedd y crëaist holl feibion dynion!

49Pa wr sydd fyw ac ni wêl angau,

(Ac) a weryd ei enaid o law annwn? Selah.

50Pa le y mae Dy drugareddau gynt, O Arglwydd,

(Y rhai) a dyngaist wrth Ddafydd i’th wirionedd?

51Cofia, O Arglwydd, waradwydd Dy weision,

—Dygais yn fy mynwes (waradwydd) pobloedd lawer—

52A’r hwn y gwaradwyddodd Dy elynion, O Iehofah,

A’r hwn y gwaradwyddasant ol troed Dy eneinniog!

53Bendigedig (fo) Iehofah yn dragywydd,

Amen ac Amen!

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help