Yr Actau 21 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1A phan fu i ni hwylio ymaith, wedi ymrwygo oddi wrthynt, ag uniawn-gyrch y daethom i Cos, a thrannoeth i Rhodos, ac oddi yno i Patara.

2Ac wedi cael llong yn myned trosodd i Phenice, wedi dringo iddi, hwyliasom ymaith.

3Ac wedi cael golwg ar Cuprus a’i gadael ar y llaw aswy, hwyliasom i Suria, a thiriasom yn Turus, canys yno yr oedd y llong yn dadlwytho ei llwyth.

4Ac wedi cael y disgyblion, arhosasom yno saith niwrnod; a hwy a ddywedasant i Paul, trwy yr Yspryd, beidio a myned i fynu i Ierwshalem.

5A phan fu i ni gyflawni’r dyddiau, wedi myned allan aethom ein ffordd, yn cael ein hebrwng gan bawb, ynghyda’r gwragedd a’r plant, hyd tu allan i’r ddinas; ac wedi dodi ein gliniau ar y traeth,

6ar ol gweddïo, canasom yn iach i’n gilydd, a dringasom i’r llong, a hwythau a ddychwelasant i’w cartref.

7A nyni, wedi gorphen hwylio o Turus, a ddaethom i Ptolemais; ac wedi cyfarch y brodyr, arhosasom un diwrnod gyda hwynt;

8a thrannoeth, wedi dyfod allan, daethom i Cesarea; ac wedi myned i mewn i dŷ Philip yr efengyl-wr, ac yntau yn un o’r saith, arhosasom gydag ef.

9Ac i hwn yr oedd pedair merch, morwynion, prophwydesau.

10Ac wrth aros o honom ddyddiau lawer, daeth i wared o Iwdea, ryw brophwyd a’i enw Agabus.

11Ac wedi dyfod attom a chymmeryd gwregys Paul, a rhwymo ei draed ei hun ac ei ddwylaw, dywedodd, Hyn a ddywaid yr Yspryd Glân, Y gŵr, eiddo yr hwn yw’r gwregys hwn, fel hyn y rhwym yr Iwddewon ef yn Ierwshalem, a thraddodant ef i ddwylaw’r cenhedloedd.

12A phan glywsom y pethau hyn, deisyfiasom, nyni a’r rhai oedd o’r fan hefyd, arno beidio a myned i fynu i Ierwshalem.

13Yna yr attebodd Paul, Pa beth a wnewch yn gwylo ac yn torri fy nghalon? Canys myfi, nid yn unig i’m rhwymo, eithr i farw hefyd yn Ierwshalem, yr wyf barod, tros enw yr Arglwydd Iesu.

14A chan na chymmerai ei berswadio, peidiasom, gan ddywedyd, Ewyllys yr Arglwydd a wneler.

15Ac ar ol y dyddiau hyn, wedi casglu ein beichiau, aethom i fynu i Ierwshalem;

16a daeth hefyd gyda ni rai o’r disgyblion o Cesarea, yn dwyn gyda hwynt yr hwn y llettyem gydag ef, un Mnasom o Cuprus, disgybl er’s y dechreuad.

17Ac wedi dyfod o honom i Ierwshalem, gyda llawenydd y derbyniodd y brodyr ni.

18A thrannoeth yr aeth Paul i mewn gyda ni at Iago, a’r holl henuriaid oeddynt bresennol.

19Ac wedi eu cyfarch, mynegodd, bob yn un, bob un o’r pethau a wnaeth Duw ymhlith y cenhedloedd trwy ei weinidogaeth.

20A hwy, wedi clywed, a ogoneddent Dduw; a dywedasant wrtho, Gweli, frawd pa sawl myrddiwn sydd ymhlith yr Iwddewon, o’r rhai a gredasant, a phawb o honynt, selog dros y Gyfraith ydynt.

21Ac hyspyswyd iddynt am danat mai ymadawiad â Mosheh a ddysgi i’r holl Iwddewon y sydd ymhlith y cenhedloedd, gan ddywedyd iddynt beidio ag amdorri ar eu plant, na rhodio yn y defodau.

22Pa beth, gan hyny, sydd? Beth bynnag a fyddo, clywant y daethost.

23Hyn, gan hyny, gwna, yr hwn a ddywedwn wrthyt, y mae genym bedwar dyn a chanddynt adduned arnynt eu hunain.

24Y rhai hyn cymmer attat, a glanhaer di ynghyda hwynt, a gwna’r draul drostynt fel yr eilliont eu pennau, a gwybydd pawb mai o’r pethau a hyspyswyd iddynt am danat, nid oes dim un yn bod, eithr rhodio yr wyt ti dy hun gan gadw’r Gyfraith.

25Ond am y cenhedloedd a gredasant nyni a orchymynasom, gan farnu ymgadw o honynt oddi wrth yr hyn a aberthwyd i eulunod, a gwaed, a’r peth tagedig, a phuteindra.

26Yna Paul, wedi cymmeryd y dynion atto, trannoeth, wedi ei lanhau ynghyda hwynt, yr aeth i mewn i’r deml, gan hyspysu cyflawniad dyddiau’r glanhad, nes yr offrymmid yr offrwm dros bob un o honynt.

27A phan oedd y saith niwrnod ar fedr eu cyflawni, yr Iwddewon o Asia, wedi ei weled yn y deml, a derfysgasant yr holl dyrfa,

28a dodasant eu dwylaw arno, dan waeddi, Gwŷr Israeliaid, cynnorthwywch. Hwn yw’r dyn sydd yn dysgu pawb ymhob man yn erbyn y bobl a’r Gyfraith a’r lle hwn; ac, heblaw hyny, Groegiaid a ddug efe i mewn i’r deml, ac halogodd y lle sanctaidd hwn.

29Canys cyn hyny gwelsent Trophimus yr Ephesiad yn y ddinas gydag ef, yr hwn a dybient y dug Paul ef i mewn i’r deml.

30A chynhyrfwyd y ddinas oll, a bu cyd-rediad y bobl. Ac wedi cymmeryd gafael ar Paul, llusgasant ef i’r tu allan o’r deml; ac yn uniawn y cauwyd y drysau.

31Ac a hwy yn ceisio ei ladd ef, aeth gair i fynu at filwriad y fyddin fod yr oll o Ierwshalem mewn terfysg;

32ac efe allan o law, wedi cymmeryd atto filwyr a chanwriad, a redodd i wared attynt; a hwy, gan weled y milwriad a’r milwyr, a beidiasant a churo Paul.

33Yna, wedi nesau o hono, y milwriad a ymaflodd ynddo ac a orchymynodd ei rwymo ef â dwy gadwyn, ac a ymofynodd pwy oedd efe, a pha beth a wnaethai:

34a rhai a lefent un peth, ac eraill beth arall, yn y dyrfa; a chan na allai wybod sicrwydd o herwydd y cythrwfl, gorchymynodd ei ddwyn i’r castell.

35A phan yr oedd efe ar y grisiau, digwyddodd ei gludo gan y milwyr o achos trais y dyrfa,

36canys canlynai lliaws y bobl dan waeddi, Ymaith ag ef.

37A phan ar fedr ei ddwyn i mewn i’r castell, Paul a ddywedodd wrth y milwriad, A ganiatteir i mi ddywedyd peth wrthyt? Ac efe a ddywedodd, Ai Groeg a fedri?

38Nid tydi, gan hyny, yw’r Aiphtiwr, yr hwn cyn y dyddiau hyn a gyfododd derfysg, ac a ddug allan i’r anialwch bedair mil o ddynion o’r llofruddion?

39A dywedodd Paul, Myfi wyf Iwddew, o Tarsus yn Cilicia, dinesydd o ddinas nid anenwog, a deisyfiaf arnat, ganiattau i mi lefaru wrth y bobl.

40Ac wedi caniattau o hono, Paul, gan sefyll ar y grisiau, a amneidiodd â’i law ar y bobl; a distawrwydd mawr wedi ei wneuthur, llefarodd yn iaith yr Hebreaid, gan ddywedyd,

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help