1Cân. Psalm, o eiddo Dafydd.
2Sefydlog (yw) fy nghalon, O Dduw,
Canaf a tharawaf y tannau, ïe, fy ngogoniant;
3Deffro, nabl a thelyn,
Deffröaf y wawr!
4Clodforaf Di ym mysg y bobloedd, O Iehofah,
A tharawaf y tannau i Ti ym mysg y cenhedloedd,
5Canys mawr, uwch y nefoedd, (yw) Dy drugaredd,
Ac hyd y cymmylau Dy ffyddlondeb!
6Ymddyrcha uwch y nefoedd, O Dduw,
Ac uwch yr holl ddaear (bydded) Dy ogoniant!
7Fel y gwareder Dy anwyl rai,
Cynnorthwya (â) ’th ddeheulaw, a gwrando fi!
8Duw a ddywedodd yn Ei sancteiddrwydd, “Gorfoleddaf,
Rhannaf Shichem, a dyffryn Swccoth a fesuraf;
9Eiddo Fi (yw) Gilead, eiddo Fi Mannasheh,
Ac Ephraim (yw) amddiffyniad Fy mhen,
Iwdah (yw) Fy nheyrnwïalen;
10Moab (yw) Fy nghrochan golchi,
Dros Edom y bwriaf Fy esgid;
O’m plegid I, O Philistia, llafar-floeddia!”
11O na’m dygid i ddinas gaerog!
Pwy a’m harweiniodd i Edom?
12Onid wyt, 0 Dduw, wedi ein bwrw ymaith,
Ac yn peidio â myned allan, O Dduw, gyda ’n lluoedd?
13Moes i ni gynhorthwy rhag y gelyn,
Canys ofer cymmorth dynion!
14Yn Nuw y gwnawn wroldeb,
Canys Efe a sathr ein golynion!
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.