Yr Actau 6 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Ac yn y dyddiau hyn, a’r disgyblion yn amlhau, y bu grwgnach gan yr Iwddewon Groegaidd yn erbyn yr Hebreaid, o herwydd diystyru eu gwragedd gweddwon yn y ministriad beunyddiol.

2Ac wedi galw attynt liaws y disgyblion, y deuddeg a ddywedasant, Nid yw’n dda genym i ni, gan ymadael â Gair Duw, wasanaethu byrddau.

3Edrychwch, gan hyny, frodyr, am seithwyr o’ch plith i’r rhai y tystiolaethir, yn llawn o’r Yspryd a doethineb, y rhai a osodom ar y gorchwyl hwn;

4ond nyni, mewn gweddi ac yn ngweinidogaeth y Gair y parhawn.

5A boddhaol oedd yr ymadrodd yngolwg yr holl liaws; ac etholasant Stephan, gŵr llawn o ffydd a’r Yspryd Glân, a Philip, a Prochorus, a Nicanor, a Timon, a Parmenas,

6a Nicolas, proselyt o Antiochia; y rhai a osodasant hwy ger bron yr apostolion: ac wedi gweddïo o honynt hwy, dodasant eu dwylaw arnynt.

7A gair Duw a gynnyddodd, ac amlhaodd rhifedi y disgyblion yn Ierwshalem yn ddirfawr, a thyrfa fawr o’r offeiriaid a ufuddhasant i’r ffydd.

8A Stephan, yn llawn o ras a gallu, oedd yn gwneuthur rhyfeddodau ac arwyddion mawrion ym mhlith y bobl;

9a chyfododd rhai o’r sunagog a elwir eiddo’r Libertiniaid, ac o’r Cureniaid, ac o’r Alecsandriaid, ac o’r rhai o Cilicia ac Asia,

10gan ymddadleu â Stephan: ac ni allent wrth-sefyll y doethineb a’r Yspryd trwy’r Hwn y llefarai.

11Yna y danfonasant i mewn ddynion yn dywedyd, Clywsom ef yn llefaru ymadroddion cablaidd yn erbyn Mosheh a Duw;

12a chynhyrfasant y bobl a’r henuriaid a’r ysgrifenyddion; a chan ddyfod arno, cipiasant ef, a dygasant ef i’r Cynghor,

13a gosodasant au dystion yn dywedyd, Y dyn hwn ni pheidia â llefaru ymadroddion yn erbyn y lle sanctaidd hwn a’r Gyfraith,

14canys clywsom ef yn dywedyd y bydd i’r Iesu y Natsaread hwn ddistrywio y lle hwn, a newid y defodau a draddododd Mosheh i ni.

15A chan graffu arno gan bawb oedd yn eistedd yn y Cynghor, gwelent ei wyneb fel pe bai yn wyneb angel.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help