I. Corinthiaid 8 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Ond am y pethau a aberthwyd i eulunod, gwyddom fod pawb o honom a gwybodaeth genym. Gwybodaeth a bair ymchwyddo, ond cariad a adeilada.

2Os yw neb yn tybied ei fod yn gwybod dim, ni ŵyr etto fel y dylai wybod:

3ond os yw neb yn caru Duw, hwn a adwaenir Ganddo Ef.

4Am fwytta, gan hyny, y pethau a aberthwyd i eulunod, gwyddom nad yw eulun yn ddim yn y byd, ac nad oes Duw oddieithr un.

5Canys er bod rhai a elwir yn dduwiau, pa un bynnag ai yn y nef ai ar y ddaear,

6fel y mae duwiau lawer ac arglwyddi lawer, eithr i ni un Duw sydd, y Tad, o’r Hwn y mae pob peth, a nyni Iddo Ef; ac un Arglwydd Iesu Grist, trwy yr Hwn y mae pob peth, a nyni trwyddo Ef.

7Ond nid ym mhawb y mae’r wybodaeth; ond rhai trwy eu harferu hyd y pryd hyn i’r eulun, a fwyttant beth megis wedi ei aberthu i eulun; ac eu cydwybod, a hi yn wan, a halogir.

8Ond bwyd ni’n cymmeradwya ni i Dduw. Os nad ydym yn bwytta, nid ydym ar ol; nac, os bwyttawn, yn rhagori.

9Ond edrychwch rhag mewn un modd i’ch rhyddid hwn fyned yn faen tarawo i’r gweiniaid;

10canys os gwel neb dydi sydd a gwybodaeth genyt, yn lled-orwedd yn nheml eulun, oni fydd i’w gydwybod ef, ac ef yn wan, ei chadarnhâu i fwytta’r pethau a aberthwyd i eulunod?

11Canys derfydd am y gwan trwy dy wybodaeth di, am y brawd er mwyn yr hwn y bu Crist farw.

12Ac felly, gan bechu yn erbyn y brodyr, a churo eu cydwybod wan hwynt, yn erbyn Crist yr ydych yn pechu.

13Gan hyny, os bwyd a bair dramgwydd i fy mrawd, ni fwyttaf gig byth, fel na bo i mi beri tramgwydd i fy mrawd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help