1Y dydd hwnw yr Iesu, wedi myned allan o’r tŷ, a eisteddodd wrth lan y môr,
2a chasglwyd Atto dorfeydd mawrion, fel y bu Iddo fyned i gwch ac eistedd yno; a’r holl dyrfa, ar y lan y safai.
3A llefarodd lawer o bethau mewn damhegion, gan ddywedyd, Wele, aeth hauwr allan i hau:
4ac wrth hau o hono, peth a syrthiodd ar ymyl y ffordd;
5a daeth yr ehediaid, a bwyttasant ef: ac eraill a syrthiasant ar y craig-leoedd, lle nid oedd iddynt ddaear lawer; ac yn uniawn yr eginasant, gan nad oedd iddynt ddyfnder daear;
6a’r haul wedi codi, poethasant, a chan nad oedd ganddynt wreiddyn, gwywasant.
7Ac eraill a syrthiasant ymhlith y drain, a chododd y drain ac a’u tagasant hwy.
8Ac eraill a syrthiasant ar y tir da; a dygasant ffrwyth, peth ar ei ganfed, a pheth ar ei dri-ugeinfed, a pheth ar ei ddegfed ar hugain.
9Y neb sydd a chanddo glustiau, gwrandawed.
10Ac wedi dyfod Atto, y disgyblion a ddywedasant Wrtho, Paham mai mewn damhegion y llefari wrthynt?
11Ac Efe, gan atteb, a ddywedodd wrthynt, I chwi y rhoddwyd gwybod dirgeledigaethau teyrnas nefoedd, ond iddynt hwy ni roddwyd;
12canys pwy bynnag sydd a chanddo, rhoddir iddo, a gorlawnder fydd iddo: ond pwy bynnag nad oes ganddo, hyd yn oed yr hyn y sydd ganddo a ddygir oddi arno.
13O herwydd hyn mewn damhegion yr wyf yn llefaru wrthynt, am gan weled ni welant; a chan glywed ni chlywant ac ni ddeallant.
14A chyflawnir iddynt brophwydoliaeth Eshaiah y sydd yn dywedyd,
“A chlyw y clywch, ac ni ddeallwch ddim,
A chan weled y gwelwch, ac ni chanfyddwch ddim;
15Canys brasawyd calon y bobl hyn,
Ac â’u clustiau yn drwm y clywsant,
Ac eu llygaid a gauasant,
Rhag ysgatfydd iddynt weled â’u llygaid,
Ac â’u clustiau glywed,
Ac â’u calon ddeall,
A dychwelyd o honynt, ac iachau o Honof hwynt.”
16Ond eich llygaid chwi, dedwydd ynt, canys gwelant; ac eich clustiau, canys clywant;
17canys yn wir y dywedaf wrthych, Llawer prophwyd a chyfiawnion a chwennychasant weled y pethau a welwch, ac ni welsant; a chlywed y pethau a glywch, ac ni chlywsant.
18Chwychwi, gan hyny, clywch ddammeg yr hauwr.
19Pob un y sydd yn clywed gair y deyrnas, ac nad yw yn deall, dyfod y mae’r drwg, ac yn cipio yr hyn a hauwyd yn ei galon ef; hwn yw’r hyn a hauwyd ar ymyl y ffordd.
20Ac yr hwn a hauwyd ar y creigleoedd, hwn yw’r un sy’n clywed y Gair, ac yn uniawn gyda llawenydd yn ei dderbyn ef;
21ond nid oes ganddo wreiddyn ynddo ei hun, eithr am amser y mae; ac wedi digwydd gorthrymder neu erlid oblegid y Gair, yn uniawn y tramgwyddir ef.
22A’r hwn a hauwyd ymhlith y drain, hwn yw’r hwn sy’n clywed y Gair; a phryder bywyd a thwyll golud sy’n tagu’r Gair, ac yn ddiffrwyth y mae efe yn myned.
23Ond yr hwn a hauwyd yn y tir da, hwn yw’r hwn sy’n clywed y Gair ac yn deall; yr hwn, yn wir, sy’n ffrwytho, ac yn dwyn, peth ei ganfed, ac arall ei dri-ugeinfed, ac arall ei ddegfed ar hugain.
24Dammeg arall a osododd Efe iddynt, gan ddywedyd, Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i ddyn a hauodd had da yn ei faes;
25a thra y cysgai y dynion, daeth ei elyn ac a oruwch-hauodd efrau ymhlith y gwenith, ac a aeth ymaith.
26A phan dyfodd yr eginyn a dwyn ffrwyth, yna yr ymddangosodd yr efrau hefyd.
27Ac wedi dyfod atto, gweision gŵr y tŷ a ddywedasant wrtho, Arglwydd, onid had da a heuaist yn dy faes? O ba le, gan hyny, y mae ganddo efrau?
28Yntau a ddywedodd wrthynt, Gelyn o ddyn a wnaeth hyn. A’r gweision a ddywedasant wrtho, A ewyllysi di, gan hyny, fyned o honom a’u casglu hwynt?
29Ac efe a ddywedodd, Na; rhag ysgatfydd i chwi wrth gasglu’r efrau, ddiwreiddio’r gwenith gyda hwynt.
30Gadewch i’r ddau gyd-dyfu hyd y cynhauaf; ac yn amser y cynhauaf y dywedaf wrth y medelwyr, Cesglwch yn gyntaf yr efrau, a rhwymwch hwynt yn ysgubau er mwyn eu llosgi; ond y gwenith cesglwch i’m hysgubor.
31Dammeg arall a osododd Efe iddynt, gan ddywedyd, Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i ronyn o had mwstard, yr hwn a gymmerodd dyn ac a’i hauodd yn ei faes;
32yr hwn yn wir sydd llai na’r holl hadau, ond wedi tyfu o hono, mwy yw na’r llysiau, ac yn myned yn bren fel y daw ehediaid y nef ac y llettyant yn ei gangau.
33Dammeg arall a lefarodd Efe wrthynt, Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i surdoes, yr hwn a gymmerodd gwraig ac a’i cuddiodd mewn tri seah o flawd, hyd oni lefeiniwyd y cwbl.
34Y pethau hyn oll a lefarodd yr Iesu mewn damhegion wrth y torfeydd; ac heb ddammeg ni lefarai ddim wrthynt,
35fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd trwy’r prophwyd, gan ddywedyd,
“Agoraf mewn damhegion fy ngenau,
Adroddaf bethau cuddiedig er’s seiliad y byd.”
36Yna wedi gadael y torfeydd, yr aeth i’r tŷ; a daeth Ei ddisgyblion Atto, gan ddywedyd, Eglura i ni ddammeg efrau’r maes.
37Ac Efe, gan atteb, a ddywedodd, Yr hwn sydd yn hau yr had da yw Mab y Dyn;
38a’r maes yw’r byd; a’r had da, y rhai hyn yw meibion y deyrnas; a’r efrau yw meibion y drwg;
39a’r gelyn a’u hauodd hwynt yw diafol; a’r cynhauaf, diwedd y byd yw; a’r medelwyr, angylion ydynt.
40Fel, gan hyny, y cesglir yr efrau, ac mewn tân y’u llosgir;
41felly y bydd yn niwedd y byd: denfyn Mab y Dyn Ei angylion, a chasglant allan o’i deyrnas Ef yr holl dramgwyddiadau a’r rhai sy’n gwneuthur anghyfraith,
42a bwriant hwynt i’r ffwrn danllyd: yno y bydd y wylofain a’r rhingcian dannedd.
43Ac yna y cyfiawnion a lewyrchant allan fel yr haul, yn nheyrnas eu Tad. Yr hwn sydd a chanddo glustiau, gwrandawed.
44Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i drysor a guddiwyd yn y maes, yr hwn wedi ei gaffael gan ddyn, a guddiodd efe, ac o’i lawenydd myned ymaith y mae, a’r cwbl, cymmaint ag sydd ganddo, a wertha efe, a phrynu’r maes hwnw y mae.
45Etto, cyffelyb yw teyrnas nefoedd i farsiandwr yn ceisio perlau teg;
46ac wedi caffael un perl tra gwerthfawr, aeth ymaith a gwerthodd bob peth, cymmaint ag oedd ganddo, a phrynodd ef.
47Etto, cyffelyb yw teyrnas nefoedd i rwyd wedi ei bwrw i’r môr,
48ac o bob rhyw y casglodd: yr hon, pan y’i llenwyd, wedi ei dwyn i fynu i’r lan, ac wedi eistedd i lawr, casglasant y rhai da mewn llestri, a’r rhai llwgr a fwriasant allan.
49Felly y bydd yn niwedd y byd; allan yr aiff yr angylion, a didolant y rhai drwg o ganol y cyfiawnion,
50a bwriant hwynt i’r ffwrn danllyd: yno y bydd y wylofain a’r rhingcian dannedd.
51A ddeallasoch chwi y pethau hyn i gyd? Dywedant Wrtho,
52Do. Ac Yntau a ddywedodd wrthynt, O achos hyn pob ysgrifenydd wedi ei wneud yn ddisgybl i deyrnas nefoedd, cyffelyb yw i berchen tŷ, yr hwn sy’n bwrw allan o’i drysor bethau newydd a hen.
53A bu pan orphenodd yr Iesu y damhegion hyn, yr ymadawodd oddi yno:
54ac, wedi dyfod i’w wlad Ei hun, dysgai hwynt yn eu sunagog fel y bu aruthredd arnynt, ac y dywedasant, O ba le y mae gan hwn y doethineb hwn a’r gwyrthiau?
55Onid hwn yw mab y saer? Onid yw ei fam, wrth ei henw, Mariam; ac ei frodyr, Iacob, ac Ioseph, a Shimon ac Iwdah?
56ac ei chwiorydd ef, onid ydynt oll gyda ni? O ba le, gan hyny, y mae gan hwn y pethau hyn i gyd?
57A thramgwyddwyd hwynt Ynddo. A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Nid yw prophwyd yn ddianrhydedd, oddieithr yn ei wlad ei hun ac yn ei dŷ ei hun.
58Ac ni wnaeth efe yno wyrthiau lawer oblegid eu hanghrediniaeth.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.