1Nesêwch, genhedloedd, i glywed;
A phobloedd, gwrandêwch;
Gwrandawed y ddaear a’i chyflawnder,
Y byd a’i holl gnwd.
2Canys llidiowgrwyd (sydd) i Iehofah yn erbyn yr holl genhedloedd,
Ac angerdd llid yn erbyn eu holl luoedd hwynt;
Diofrydodd hwynt, rhoddes hwynt i’r lladdfa,
3A’u lladdedigion a fwrir allan,
Ac o’u celannedd yr esgyn eu drewiant,
A thoddir y mynyddoedd o’u gwaed hwynt.
4Ac fe nycha holl lu ’r nefoedd,
Ac fel 2llyfr y 1plygir y nefoedd,
A’i holl lu a syrth
Fel y syrthiai deilen o’r winwŷdden,
Ac fel (ffigysen) yn syrthio oddi ar y ffigys-bren.
5Canys meddwodd Fy 2nghleddyf 『1yn y nefoedd;』
Wele, ar Edom y disgyn efe,
Ac ar bobl Fy niofryd, i farn.
6Cleddyf Iehofah a lanwyd o waed,
Tewychodd gan frasder,
Gan waed ŵyn a bychod geifr,
Gan frasder arennau hyrddod;
Canys aberthiad (sydd) gan Iehofah yn Botsrah,
A lladdfa fawr yn nhir Edom.
7Ac fe ddisgyn y buail gyda hwynt,
A’r bustych gyda ’r teirw,
Ac e feddwa eu tir hwynt o’u gwaed,
A’u llwch gan frasder a dewycha.
8Canys diwrnod dïal (yw) i Iehofah,
Blwyddyn taledigaeth i Ddadleuwr Tsïon.
9 A thröir ei hafonydd yn bŷg,
A’i llwch yn frwmstan,
A bydd y ddaear yn bŷg llosgedig;
10Dydd a nos nis diffoddir hi,
Am byth yr esgyn ei mŵg hi,
Yn oes oesoedd y diffaethir hi;
Am byth bythoedd ni (bydd) cynniweirydd trwyddi:
11Ond e feddianna ’r pelican a’r draenog hi,
A’r dylluan a’r gigfran a drigant ynddi,
Ac Efe a estyn arni linyn anghyfanneddiad,
A phlymen gwagder dros ei chras-dir.
12Ni bydd yno frenhiniaeth i’w henwi ganddynt,
Ai holl dywysogion hi fyddant ddiddym.
13Ac fe gyfyd yn ei phalasau ddrain,
Danadl a mieri yn ei hamgeurydd,
A hi a fydd yn drigfa dreigiau,
Yn gyntedd i gywion yr estrys.
14A chyferfydd bwystfilod yr anialwch â’r gweilch,
A’r ellyll ar ei gymhar a eilw;
Ac yno yr ymdawela aderyn y corph,
Ac y caiff iddo ei hun orphwysfa.
15Yno y nytha ’r dylluan, ac y dodwa,
Ac y deora, ac y casgl (ei chywion) yn ei chysgod;
Ac yno y cesglir y fylturiaid,
Pob un gyda ’i gymhar.
16Ceisiwch allan o lyfr Iehofah, a darllenwch;
Un o’r rhai hyn ni fydd ddiffygiol,
Pob banyw am ei chymhar ni fydd mewn eisiau,
Canys genau Iehofah a orchymmynodd,
A’i yspryd Ef ei hun a’u casglodd hwynt.
17Ac Efe a fwriodd iddynt y coelbren,
A’i law Ef a’i rhannodd iddynt wrth linyn;
Yn dragywydd y meddiannant hwy hi,
Yn oes oesoedd y preswyliant ynddi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.