1Dwg ar gof iddynt ymddarostwng i lywodraethau, i awdurdodau; fod yn ufudd; at bob gweithred dda i fod yn barod;
2i beidio â chablu un dyn; i fod yn anymladdgar, yn dirion, yn dangos pob addfwynder tuag at bob dyn;
3canys gynt yr oeddym ninnau hefyd yn annoethion, yn anufudd, yn cyfeiliorni, yn gwasanaethu amryw chwantau a meluswedd, yn byw mewn drygioni a chynfigen, yn atgas,
4yn casau ein gilydd: ond, pan fu i ddaioni a chariad tuag at ddynion ymddangos, sef eiddo ein Hiachawdwr Duw,
5nid o weithredoedd mewn cyfiawnder, y rhai a wnaethom ni, eithr yn ol Ei drugaredd Ef Ei hun yr achubodd ni trwy noe adenedigaeth, ac adnewyddiad yr Yspryd Glân,
6yr Hwn a dywalltodd Efe allan arnom yn ehelaeth trwy Iesu Grist ein Hiachawdwr,
7fel, wedi ein cyfiawnhau trwy Ei ras Ef, y’n gwneid yn etifeddion yn ol gobaith bywyd tragywyddol:
8credadwy yw’r ymadrodd; ac am y pethau hyn y mynnaf i ti lefaru yn bendant, fel y gofalo’r rhai a gredasant i Dduw ar arferu gweithredoedd da.
9Y pethau hyn ydynt dda a buddiol i ddynion: ond cwestiynau ynfyd, ac achau, a chynhenau, ac ymladdau ynghylch y Gyfraith, gochel; canys y maent yn anfuddiol ac ofer.
10Heretic o ddyn, wedi un ac ail rybydd, gwrthod,
11gan wybod y gŵyr-drowyd y cyfryw ddyn, a phechu y mae, yn gondemniedig ganddo ei hun.
12Pan ddanfonwyf Artemas attat, neu Tuchicus, bydd ddyfal i ddyfod attaf i Nicopolis, canys yno y penderfynais auafu.
13Senas y cyfreithiwr, ac Apolos, hebrwng yn ddyfal fel na bo arnynt eisiau dim.
14A dysged yr eiddom ni hefyd arferu gweithredoedd da, er yr eisiau angenrheidiol, fel na byddont yn ddiffrwyth.
15Dy annerch y mae’r holl rai sydd gyda mi. Annerch y rhai sydd yn ein caru ni mewn ffydd.
16Gras fyddo gyda phawb o honoch.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.