Yr Actau 3 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1A Petr ac Ioan a aethant i fynu i’r deml ar awr weddi, sef y nawfed.

2Ac rhyw ddyn, cloff o groth ei fam, a ddygid, yr hwn a ddodent beunydd wrth borth y deml, yr hwn a elwid Prydferth, i ofyn elusen gan y rhai a aent i mewn i’r deml.

3Ac efe, gan weled Petr ac Ioan ar fedr myned i mewn i’r deml, a ofynodd gael elusen.

4A chan edrych yn graff arno, Petr ynghydag Ioan a ddywedodd, Edrych arnom.

5Ac efe a ddaliodd sylw arnynt, gan ddisgwyl cael rhywbeth ganddynt.

6A dywedodd Petr, Arian ac aur nid oes genyf; ond yr hyn y sydd genyf, hyny i ti y’i rhoddaf.

7Yn enw Iesu Grist y Natsaread, rhodia. Ac wedi ei gymmeryd erbyn ei law ddehau, cyfododd ef;

8ac yn uniawn y cadarnhawyd ei draed ef a’i fferau: a chan neidio i fynu, safodd, a rhodiodd, ac aeth i mewn ynghyda hwynt i’r deml, yn rhodio a neidio a moli Duw.

9A gwelodd yr holl bobl ef yn rhodio ac yn moli Duw;

10ac adnabyddent ef, mai efe oedd yr hwn a eisteddai, am elusen, wrth borth Prydferth y deml; a llanwyd hwy o syndod a dychryn am yr hyn a ddigwyddasai iddo.

11Ac efe yn dal ei afael ar Petr ac Ioan, attynt y cyd-redodd yr holl bobl yn y cyntor a elwir Cyntor Shalomon, mewn syndod mawr.

12A Petr, gan weled hyn, a attebodd i’r bobl, Gwŷr Israel, paham y rhyfeddwch wrth hyn, neu arnom ni y craffwch, fel pe bai trwy ein gallu neu ein duwioldeb ni ein hunain y gwnaethom i hwn rodio?

13Duw Abraham ac Itsaac ac Iacob, Duw ein tadau, a ogoneddodd Ei Fab Iesu, yr Hwn, chwi yn wir a’i traddodasoch ac a’i gwadasoch ger bron Pilat, ac efe wedi barnu ei ollwng Ef yn rhydd;

14ond chwychwi, y Sanct a Chyfiawn a wadasoch, a gofynasoch am i ddyn llofruddiog gael ei roddi i chwi,

15a Thywysog y Bywyd a laddasoch, yr Hwn a gododd Duw o feirw; o’r hyn yr ydym ni yn dystion.

16A thrwy ffydd yn Ei enw Ef, yr hwn a welwch ac a adnabyddwch, Ei enw Ef a’i cadarnhaodd; ac y ffydd y sydd Trwyddo Ef, a roddes i hwn yr iechyd perffaith hwn yn eich gwydd chwi oll.

17Ac yn awr, frodyr, gwn mai trwy anwybod y gwnaethoch, fel y gwnaeth eich pennaethiaid hefyd.

18Ond Duw felly a gyflawnodd y pethau a rag-fynegasai Efe trwy enau Ei holl brophwydi, y dioddefai Ei Grist Ef.

19Edifarhewch, gan hyny, a dychwelwch, fel y dileer eich pechodau, fel y delo amseroedd dadebriad oddi ger bron yr Arglwydd,

20ac y danfono’r Crist a rag-ordeiniwyd i chwi,

21yr Iesu, yr Hwn y mae rhaid i’r nef Ei dderbyn hyd amseroedd adferiad yr holl bethau a lefarodd Duw trwy enau Ei brophwydi sanctaidd erioed.

22Mosheh yn wir a ddywedodd, “Prophwyd i chwi a gyfyd Iehofah Duw o’ch brodyr, fel myfi. Arno Ef y gwrandewch, yn yr holl bethau, cynnifer ag a lefara Efe wrthych;

23a bydd pob enaid na wrandawo ar y Prophwyd hwnw, a lwyr-ddifethir o blith y bobl.”

24A’r holl brophwydi o Shamuel a’r rhai canlynol, cynnifer ag a lefarasant, fynegasant hefyd y dyddiau hyn.

25Chwychwi ydych feibion y prophwydi a’r cyfammod yr hwn a ammododd Duw â’n tadau, gan ddywedyd wrth Abraham, “Ac yn dy had y bendithir holl dylwythau’r ddaear.”

26Attoch chwi yn gyntaf, y bu i Dduw, gwedi cyfodi Ei Fab, Ei ddanfon Ef yn eich bendithio trwy droi pob un o honoch oddiwrth eich anwireddau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help