Eshaiah 36 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

XXXVI.

1 36:1 O herwydd y cyssylltiad rhwng Sennacherib a phrophwydoliaethau Eshaiah, rhoddir yn awr hanes ei ddyfodiad ef yn erbyn Ierwshalem. A bu yn y bedwaredd 2flwyddyn ar 1 ddeg i’r brenhin Hezecïah, daeth Sennacherib brenhin Assyria i fynu yn erbyn holl ddinasoedd Iwdah, (sef) y rhai caerog, a goresgynodd hwynt.

2A danfonodd brenhin Assyria Rabshaceh o Lachish i Ierwshalem at y brenhin Hezecïah, â llu dirfawr. Ac efe a safodd wrth awell y llyn uchaf ym mhrif-ffordd maes y pannwr.

3Ac aeth allan atto ef Eliacim, mab Hilcïah, yr hwn (oedd) ben-teulu, a Shebna’r ysgrifenydd, ac Ioah, mab Asaph, y cofiadur.

4A dywedodd 2Rabshaceh 1wrthynt, Dywedwch, attolwg, wrth Hezecïah, Fel hyn y dywed y Brenhin Mawr, Brenhin Assyria, Pa beth (yw) ’r hyder hwn, yr hwn yr ymddiriedi (ynddo)?

5Dywedaist, ond gair gwefusau yw, Cynghor a nerth (sydd gennyf) i ryfel. Yn awr ar bwy yr hyderi am it’wrthryfela i’m herbyn?

6Wele, hyderaist ar atteg y gorsen ddrylliedig honno, ar yr Aipht; yr hon, ped ymbwysai dyn arni, hi a aiff i gledr ei law ef, ac a dylla trwyddi; felly y mae Pharaoh, Brenhin yr Aipht, i bawb a hyderant arno.

7Ond os dywedi wrthyf, Yn Iehofah ein Duw yr ydym yn ymddiried, onid Efe (yw) ’r hwn y darfu i Hezecïah dynu i lawr Ei uchelfëydd a’i allorau, a dywedyd wrth Iwdah a Ierwshalem,

8O flaen yr allor hon yr addolwch? Ond yn awr ymgymmoda, attolwg, â’m Harglwydd, Brenhin Assyria, a mi a roddaf i ti ddwy fil o feirch, os gelli di roddi o’th ran di farchogwŷr arnynt.

9A pha fodd y troi di ymaith wyneb un cadpen o weision fy Harglwydd, (ië) o’r rhai lleiaf? Ac a ymddiriedi di yn yr Aipht am gerbydau ac am farchogion?

10Ac yn awr ai heb Iehofah y daethum i fynu yn erbyn y wlad hon i’w dinystrio? Iehofah a ddywedodd wrthyf, Dos i fynu yn erbyn y wlad hon, a dinystria hi.

11Yna y dywedodd Elïacim a Shebna ac Ioah wrth Rabshaceh, Llefara, attolwg, wrth dy weision yn Syräeg, canys ei deall (yr ydym) ni, ac na lefara wrthym yn iaith yr Iwddewon yn nglyw ’r bobl (sydd) ar y mur.

12A dywedodd Rabshaceh, Ai at dy feistr, ac attat tithau, yr anfonodd fy 1meistr 2fi i lefaru ’r geiriau hyn? Onid (anfonodd efe fi) at y dynion sydd yn eistedd ar y mur i fwytta ei tom ei hun ac i yfed eu trwngc eu hun gyda chwi?

13A safodd Rabshaceh a gwaeddodd â llef uchel yn iaith yr Iwddewon, ac a ddywedodd, Gwrandêwch eiriau ’r Brenhin Mawr,

14Brenhin Assyria, Fel hyn y dywed y Brenhin, Na thwylled 2Hezecïah 1chwi, canys ni ddichon efe eich gwaredu chwi:

15Ac na phared 3Hezecïah i 2chwi 1ymddiried yn Iehofah gan ddywedyd, Gan waredu y gweryd Iehofah ni; ni roddir y ddinas hon yn llaw Brenhin Assyria.

16Na wrandêwch ar Hezecïah, canys fel hyn y dywed Brenhin Assyria, Gwnewch â mi fendith (i’ch hunain), a deuwch allan attaf, a bwyttêwch bob un o’i winwŷdden ei hun, a phob un o’i ffigysbren,

17ac yfwch bob un ddwfr ei ffynhon ei hun, nes i mi ddyfod a’ch dwyn chwi i wlad megis eich gwlad eich hun, gwlad ŷd a gwin, gwlad bara a gwinllanoedd.

18Na huded 2Hezecïah 1chwi, gan ddywedyd, Iehofah a’n gweryd ni. A waredodd duwiau ’r cenhedloedd bob un ei dir ei hun o law Brenhin Assyria?

19Lle (mae) duwiau Hamath ac Arphad? Lle (mae) duwiau Sepharfaïm? A waredasant hwy Samaria o’m llaw i?

20Pwy (sydd) ym mhlith holl dduwiau ’r gwledydd hyn a’r a waredasant eu gwlad o’m llaw i, fel y gwaredai Iehofah Ierwshalem o’m llaw i?

21Eithr hwy a dawsant, ac nid attebasant iddo air, canys gorchymyn y Brenhin (oedd) hyn gan ddywedyd, Nac attebwch ef.

22Yna y daeth Elïacim, mab Hilcïah, yr hwn (oedd) benteulu, a Shebna yr ysgrifenydd, ac Ioah, mab Asaph, y cofiadur, at Hezecïah â’u 2dillad 『1yn rhwygedig,』ac a fynegasant iddo eiriau Rabshaceh.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help