Datguddiad 9 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1A’r pummed angel a udganodd, a gwelais seren o’r nef, wedi syrthio ar y ddaear; a rhoddwyd iddo agoriad pydew affwys:

2ac agorodd efe bydew affwys, ac esgynodd mwg o’r pydew, fel mwg ffwrn fawr; a thywyllwyd yr haul a’r awyr gan fwg y pydew;

3ac allan o’r mwg y daeth locustiaid ar y ddaear; a rhoddwydd iddynt allu, fel y mae gallu gan ysgorpionau’r ddaear;

4a dywedwyd wrthynt na niweidient laswellt y ddaear, na dim sydd wyrddlas, nac un pren, ond yn unig y dynion y sydd heb ganddynt sel Duw ar eu talcennau:

5a rhoddwyd iddynt na laddent hwynt, ond iddynt gael eu poeni bum mis; a’u poen oedd fel poen ysgorpion pan darawo ddyn.

6Ac yn y dyddiau hyny y cais dynion farwolaeth, ac ni chânt mo’ni; a chwennychant farw, ond ffoi y mae marwolaeth oddiwrthynt.

7A dulliau y locustiaid oeddynt debyg i feirch wedi eu parottoi i ryfel; ac ar y pennau yr oedd fel pe bai coronau tebyg i aur; a’u gwynebau fel gwynebau dynion:

8ac yr oedd ganddynt wallt fel gwallt gwragedd: a’u dannedd fel yr eiddo llewod oeddynt;

9ac yr oedd ganddynt lurigau fel llurigau haiarn, a swn eu hadenydd oedd fel swn cerbydau, o feirch lawer yn rhedeg i ryfel;

10ac yr oedd ganddynt gynffonau tebyg i ’scorpion-au, a cholynnau; ac yn eu cynffonnau y mae eu gallu i niweidio dynion bum mis;

11a throstynt y mae ganddynt yn frenhin angel affwys, a’r enw iddo yw yn Hebraeg, Abadon; ac yn y Roeg, yr enw Apoluon sydd iddo.

12Y wae gyntaf a aeth heibio; wele, dyfod y mae etto ddwy wae ar ol hyn.

13A’r chweched angel a udganodd, a chlywais lais o gyrn yr allor aur,

14yr hon sydd ger bron Duw, yn dywedyd wrth y chweched angel, yr hwn oedd a chanddo yr udgorn, Gollwng yn rhydd y pedwar angel y sydd wedi eu rhwymo wrth yr afon fawr Euphrates.

15A gollyngwyd y pedwar angel, y rhai oeddynt wedi eu parottoi am yr awr a diwrnod a mis a blwyddyn, fel y lladdent y traian o ddynion.

16A rhifedi lluoedd y gwŷr meirch oedd ddwy fyrddiwn o fyrddiynnau: clywais eu rhifedi.

17Ac fel hyn y gwelais y meirch yn y weledigaeth, a’r rhai oedd yn eistedd arnynt a chanddynt lurigau o liw tân a lliw huacinth a lliw brwmstan; a phennau’r meirch, fel pennau llewod; ac allan o’u safnau y mae tân yn dyfod, a mwg, a brwmstan.

18A chan y tri phla hyn y llâs traian dynion, gan y tan a’r mwg a’r brwmstan a oedd yn dyfod allan o’u safnau;

19canys gallu’r meirch, yn eu safnau y mae, ac yn eu cynffonnau, canys eu cynffonnau oeddynt debyg i seirph; a chanddynt bennau; ac â hwynt y niweidiant.

20A’r gweddill o ddynion, y rhai ni laddwyd gan y plaau hyn, nid edifarhasant oddiwrth weithredoedd eu dwylaw fel nad addolent gythreuliaid a’r eulunod aur ac arian a phres a maen a phren, y rhai ni allant na gweled na chlywed na rhodio.

21Ac nid edifarhasant oddiwrth eu llofruddiaethau, nac oddiwrth eu swyn-gyfareddion, nac oddiwrth eu godineb, nac oddiwrth eu lladradau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help