Eshaiah 23 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

XXIII.

1 yr ymadrodd ynghylch tyrus.

Udwch, longau Tarshish!

Canys anrheithiwyd hi tu fewn a thu allan;

O dir Chittim y datguddiwyd iddynt.

2 Distêwch, drigolion yr arfordir;

Marchnadyddion Tsidon, y rhai sy’n tramwy’r môr, a’th lanwasant di.

3A chyda dyfroedd lawer had y Nilws,

Cynhauaf yr afon, (oedd) ei chnwd hi,

A hi a aeth yn farchnadfa ’r cenhedloedd.

4Cywilyddia, Tsidon, canys llefarodd y môr,

Ië, cryfder y môr, gan ddywedyd,

Nid ymddygais, ac nid esgorais,

Ni fagais wŷr ieuaingc, (ni) feithriniais forwynion.

5Pan glywir hyn yn yr Aipht,

Gwewyr a’u daliant wrth glywed son am Tyrus.

6Ewch drosodd i Tarshish; udwch, breswylwŷr yr arfordir.

7Ai hon eich (dinas) lawen chwi; yr hon er y dyddiau gynt (y mae) ei hynafiaeth?

Fe ddwg ei thraed ei hun hi ym mhell i drigo.

8Pwy a gynghorodd hyn yn erbyn Tyrus goronawg,

Yr hon (yr ydoedd) ei marchnattawŷr yn dywysogion, ei marsiandwŷr yn bendefigion y ddaear?

9 Iehofah y lluoedd a’i cynghorodd,

I ddifwyno balchder pob addurn,

Ac i ddifrio holl bendefigion y ddaear.

10Dos dros dy wlad fel afon,

O ferch Tarshish; nid (oes) amgaer mwyach.

11Ei law a estynodd Efe ar y môr, dychrynodd y teyrnasoedd;

Iehofah a orchymynodd am Canaan, ar ddinystrio ei chadernid.

12Ac Efe a ddywedodd, Ni chwanegi etto orfoleddu,

O dreisiedig forwyn, merch Tsidon.

I Chittim, cyfod, tramwy; hyd yn oed yno ni (bydd) llonyddwch i ti.

13Wele dir y Caldeaid,

Dyma’r bobl a’r nid oedd

Nes i Assur ei sylfaenu i drigolion yr anialwch;

Dyrchafasant ei dyrau, cyfodasant ei balasau;

Efe a’i rhoddes hi yn adfail.

14Udwch, longau Tarshish, canys anrheithiwyd eich nerth.

15A bydd yn y dydd hwnnw,

Yr anghofir Tyrus ddeng mlynedd a thrugain,

Megis dyddiau un brenhin.

Ym mhen deng mlynedd a thrugain

Y hydd Tyrus megis caniadau ’r buttain.

16Cymmer y delyn, amgylchyna’r ddinas, o buttain anghofiedig,

Bydd fedrus i daraw ’r tannau, amlhâ ’r gân fel y’th gofier.

17A bydd, ym mhen deng mlynedd a thrugain

Yr ymwêl Iehofah â Tyrus,

A hi a ddychwel at ei helw,

Ac a butteinia â holl deyrnasoedd y byd

Ar wyneb y ddaear.

18Ond bydd ei marchnadiad a’i helw yn sanctaidd i Iehofah;

Ni thrysorir, ac nid ystorir,

Canys i’r rhai sy’n trigo o flaen Iehofah y bydd ei marchnadiad,

Am fwytta hyd ddigonolrwydd, ac am ddillad neillduol.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help