S. Marc 2 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Ac wedi myned trachefn i Caphernahwm wedi rhai dyddiau, clybuwyd Ei fod mewn tŷ;

2a chydymgasglodd llawer, fel na chynnwysai bellach hyd yn oed hyd at y drws mo honynt; a llefarodd Efe y Gair wrthynt.

3A daethant, gan ddwyn Atto ddyn claf o’r parlys, yr hwn a ddygid gan bedwar:

4a chan na allent nesau Atto o achos y dyrfa, didoi y tô a wnaethant lle’r oedd Efe; ac wedi torri trwodd, gollyngasant i wared y gorwedd-beth ar yr hwn yr oedd y claf o’r parlys yn gorwedd.

5A chan weled o’r Iesu eu ffydd hwynt, dywedodd wrth y claf o’r parlys, Ha fab, maddeuwyd dy bechodau di.

6Ac yr oedd rhai o’r ysgrifenyddion yno, yn eistedd ac yn ymresymmu yn eu calonau, Paham y mae hwn yn llefaru fel hyn?

7Cablu y mae. Pwy all faddeu pechodau oddieithr Un, sef Duw?

8Ac yn uniawn, gan weled o’r Iesu yn Ei yspryd mai felly yr ymresymment ynddynt eu hunain, dywedodd wrthynt, Paham y mae’r ymresymmiadau hyn genych yn eich calonau?

9Pa un sydd hawsaf, ai dywedyd wrth y claf o’r parlys, “Maddeuwyd dy bechodau,” neu ddywedyd, “Cyfod, a chymmer i fynu dy orweddfa, a rhodia?”

10Ond fel y gwypoch fod awdurdod gan Fab y Dyn, ar y ddaear i faddeu pechodau, (dywedodd wrth y claf o’r parlys) Wrthyt ti y dywedaf,

11Cyfod, cymmer i fynu dy orweddfa, a dos i’th dŷ.

12A chyfododd efe; ac yn uniawn wedi cymmeryd i fynu ei orweddfa, yr aeth allan yngwydd pawb, fel y synnodd pawb, ac y gogoneddasant Dduw, gan ddywedyd, nis gwelsom erioed fel hyn.

13Ac aeth allan drachefn wrth lan y môr: a’r holl dyrfa a ddaeth Atto, a dysgodd Efe hwynt.

14Ac wrth fyned heibio gwelodd Lefi fab Alphëus, yn ei eistedd wrth y dollfa, a dywedodd wrtho, Canlyn Fi; ac wedi codi o hono, canlynodd Ef.

15A bu lled-orwedd o Hono wrth y ford yn ei dŷ ef, a llawer o dreth-gymmerwyr a phechaduriaid a led-orweddent ynghyda’r Iesu a’i ddisgyblion, canys yr oedd llawer o honynt, a chanlynent Ef.

16Ac ysgrifenyddion y Pharisheaid, yn gweled Ei fod yn bwytta ynghyda’r pechaduriaid a threth-gymmerwyr, a ddywedasant wrth Ei ddisgyblion, Ynghyda threth-gymmerwyr a phechaduriaid y bwytty ac yr yf Efe.

17Ac wedi clywed hyn, yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Nid oes rhaid i’r rhai iach wrth feddyg; eithr i’r rhai drwg eu hwyl. Ni ddaethum i alw cyfiawnion, eithr pechaduriaid.

18A byddai disgyblion Ioan, ac y Pharisheaid, yn ymprydio: a daethant a dywedasant Wrtho, Paham y mae disgyblion Ioan, a disgyblion y Pharisheaid yn ymprydio, ond Dy ddisgyblion Di nid ymprydiant?

19A dywedodd yr Iesu wrthynt, A all meibion yr ystafell briodas, tra ynghyda hwynt y mae’r priodas-fab, ymprydio? Cymmaint amser ag y mae ganddynt y priodas-fab ynghyda hwynt,

20ni allant ymprydio: ond daw’r dyddiau pan ddygir y priodas-fab ymaith oddi wrthynt, ac yna yr ymprydiant yn y dydd hwnw.

21Nid oes neb yn gwnio darn o frethyn heb ei bannu at gochl hen: onite, cymmer y cyflawniad oddiwrtho, y newydd oddiwrth yr hen, a rhwyg gwaeth a wneir.

22Ac nid oes neb yn dodi gwin newydd mewn costrelau hen; onite, tyr y gwin y costrelau, ac am y gwin y derfydd, ac am y costrelau: eithr gwin newydd i gostrelau crai.

23A bu Ei fod ar y Sabbath yn myned trwy’r maesydd yd, a dechreuodd Ei ddisgyblion ymdaith gan dynu’r tywys;

24a’r Pharisheaid a ddywedasant Wrtho, Wele, Paham y gwnant ar y Sabbath yr hyn nid yw gyfreithlawn?

25A dywedodd Efe wrthynt, Oni fu i chwi erioed ddarllen pa beth a wnaeth Dafydd pan yr oedd angen a chwant bwyd arno, efe a’r rhai gydag ef?

26Y modd yr aeth i mewn i dŷ Dduw yn amser Abiathar yr archoffeiriad, a bara’r gosod ger bron a fwyttaodd efe, y rhai nid yw gyfreithlawn eu bwytta oddieithr i’r offeiriaid, ac y rhoddes hefyd i’r rhai oedd gydag ef.

27A dywedodd wrthynt, Y Sabbath, o achos dyn y’i gwnaethpwyd, ac nid dyn o achos y Sabbath,

28fel mai Arglwydd yw Mab y Dyn hyd yn oed ar y Sabbath.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help