II. Thessaloniaid 3 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Yn ddiweddaf, gweddiwch, frodyr, trosom, ar i air yr Arglwydd redeg a’i ogoneddu fel gyda chwi,

2ac ar ein hachub oddiwrth y dynion anhywaith a drwg; canys nid gan bawb y mae ffydd;

3ond ffyddlawn yw’r Arglwydd, yr Hwn a’ch sicrha, ac a’ch ceidw rhag y drwg.

4Ac hyder sydd genym yn yr Arglwydd am danoch, mai’r pethau a orchymynwn yr ydych yn eu gwneuthur, ac y’u gwnewch.

5A’r Arglwydd a gyfarwyddo eich calonnau i gariad Duw ac i amynedd Crist.

6A gorchymyn i chwi yr ydym, frodyr, yn enw ein Harglwydd Iesu Grist, dynnu o honoch ymaith oddiwrth bob brawd y sy’n rhodio yn afreolus, ac nid yn ol y traddodiad a dderbyniasant genym;

7canys gwyddoch eich hunain pa fodd y dylech ein hefelychu ni, canys ni fuom afreolus yn eich plith,

8ac nid yn rhad y bwyttasom fara gan neb; eithr mewn llafur a lludded, gan weithio nos a dydd, fel na phwysem ar neb o honoch,

9nid gan nad oes genym awdurdod, eithr fel y rhoddem ein hunain yn esiampl i chwi fel yr efelychech ni.

10Canys hefyd pan oeddym gyda chwi, hyn a orchymynasom i chwi, Os yw neb heb ewyllysio gweithio, na fwyttaed chwaith.

11Canys clywn am rai yn rhodio yn eich plith yn afreolus, heb weithio dim, eithr yn ofer-weithio;

12ac i’r cyfryw rai y gorchymynwn, ac y’u hannogwn yn yr Arglwydd Iesu Grist, y bo iddynt, gan weithio gyda llonyddwch, fwytta eu bara eu hunain.

13A chwychwi, frodyr, na ddiffygiwch mewn gwneuthur yr hyn sydd dda.

14Ac os rhyw un nad ufuddha i’n gair trwy’r epistol, hwnw nodwch, i beidio ag ymgymmysgu ag ef, fel y cywilyddio;

15ac nid megis gelyn ystyriwch ef, eithr cynghorwch ef megis brawd.

16Ac Arglwydd yr heddwch Ei hun a roddo i chwi heddwch yn wastadol ym mhob modd. Yr Arglwydd a fo gyda phawb o honoch.

17Yr annerch â’m llaw i Paul, yr hyn sydd arwydd ym mhob epistol.

18Felly yr wyf yn ysgrifenu. Gras ein Harglwydd Iesu Grist fo gyda phawb o honoch.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help