1 Gwae goron balchder meddwon Ephraim,
A blodeuyn diflanedig ei ogoneddus harddwch,
Y rhai sydd ym mhen y dyffryn bras, wedi eu gorchfygu gan win.
2Wele ’r grymmus a nerthol neillduol,
Fel tymmestl cenllysg, (fel) corwỳnt dinystriol,
Fel tymmestl dyfroedd cedyrn yn llifo drosodd,
Efe a’u llonydda hwynt ar lawr â’i law.
3Dan draed y sethrir
Coronau balchder meddwon Ephraim.
4A bydd blodeuyn diflanedig ei ogoneddus harddwch,
Yr hwn sydd ym mhen y dyffryn bras,
Megis ffigysen gynnar cyn yr hâf,
Yr hon a wêl pwy bynnag a’i gwelo,
A hi yn awr yn ei law, efe a’i llwngc hi.
5 Yn y dydd hwnnw y bydd Iehofah y lluoedd yn goron ardderchowgrwydd,
Ac yn dalaith gogoniant, i weddill Ei bobl,
6Ac yn yspryd barn i’r hwn a eisteddo ar farn,
Ac yn gadernid i’r rhai a ddychwelant y rhyfel hyd at y porth.
7Ond hyd yn oed y rhai hyn trwy win a gyfeiliornasant, a thrwy ddïod gadarn a grwydrasant;
Offeiriad a phrophwyd a gyfeiliornasant drwy ddïod gadarn;
Gorchfygwyd hwy gan y gwin, crwydrasant drwy ’r ddiod gadarn,
Cyfeiliornasant mewn gwelediad, tramgwyddasant (mewn) barn.
8Canys yr holl fyrddau a lanwyd o chwydfa,
O fudreddi, heb le (glan).
9“I bwy” (meddant) “y dysg Efe wybodaeth? ac i bwy y pâr Efe ddeall gwers?
(Ai) i’r rhai a ddiddyfnwyd oddi wrth laeth, y rhai a dynnwyd oddi wrth y bronnau?
10Canys (y mae hi) yn orchymyn ar orchymyn, gorchymyn ar orchymyn,
Llin ar lin, llin ar lin,
Ychydig yma, ac ychydig accw.”
11 Ië, â bloesgni gwefus, ac â thafodiaith ddieithr
Y llefara Efe wrth y bobl hyn.
12Pan ddywedodd Efe wrthynt,
Hwn yw’r gorphwysdra, rhoddwch orphwysdra i’r diffygiol,
A hon yw’r orphwysfa, ni fynnent wrando;
13Gan hynny iddynt hwy (y bydd) gair Iehofah
Yn orchymyn ar orchymyn, gorchymyn ar orchymyn,
Llin ar lin, llin ar lin,
Ychydig yma, ac ychydig accw,
Fel yr elont ac y syrthiont yn ol,
Ac y dryllier, ac y magler, ac y dalier hwynt.
14Am hynny gwrandêwch air Iehofah, ddynion gwatwarus,
Llefarwŷr diarebaidd ymhlith y bobl hyn y rhai (sydd) yn Ierwshalem,
15Am i chwi ddywedyd, Gwnaethom ammod âg angau,
Ac â’r bêdd y gwnaethom gyngrair;
Y ffrewyll lifeiriol, er iddi dramwyo, ni ddaw attom ni,
Canys gosodasom gelwydd yn noddfa i ni,
A than ffalsder y llechasom.
16Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Iehofah,
Wele Fi yn sylfaenu yn Tsïon faen, maen profedig,
Congl-faen, gwerthfawr, safadwy safadwy,
Yr hwn a gredo (ynddo) ni chywilyddir,
17A Mi a wnaf farn wrth linyn,
A chyfiawnder wrth blymen;
Ac fe ysguba cenllysg y noddfa o gelwydd;
A’r lloches, y dyfroedd a lifeiriant drosti.
18A diddymmir eich ammod âg angau,
A’ch cyngrair a’r bedd ni saif;
A’r ffrewyll lifeiriol, pan dramwyo hi,
Chwi a fyddwch iddi yn sathrfa;
19O’r amser y tramwyo, y cipia hi chwi,
Canys bore ar fore y tramwya, ddydd a nos;
Ac y bydd yn 2ddychryn 3glywed yn 1unig 『4ei swn hi;』
20Canys rhy fyrr yw’r gwely i ymestyn (ynddo),
A’r cwrlid rhy gul i ymdrôi ynddo;
21Canys megis ym mynydd Peratsim, y cyfyd Iehofah,
Megis yn nglyn Gibeon, y digia Efe,
I wnaethur Ei waith, Ei ddïeithr-waith,
Ac i weithredu Ei weithred, Ei anarferol weithred.
22Ac yn awr nac ymroddwch i watwar,
Rhag cadarnhâu o’ch ceryddon,
Canys dinystr a (hwnnw) yn benderfynedig a glywais
Oddi wrth Iehofah y lluoedd yn erbyn yr holl dir.
23Clywch a gwrandêwch fy llais,
Ystyriwch a gwrandêwch fy lleferydd.
24 Ai pob dydd yr aredig yr arddwr er mwyn hau,
Ac yr agora, ac yr oga ei dir?
25Onid, wedi iddo lyfnhâu ei wyneb,
Y taena efe lysiau ’r bara, a’r cwmin a wasgar efe,
Ac a ddyd y gwenith mewn rhesi,
A’r haidd (mewn lle) nodedig, a’r rhŷg yn ei derfyn?
26Canys gan ei hyfforddio yn iawn ei Dduw a’i dysg ef.
27Canys nid âg ôg y dyrnir Hysiau ’r bara,
Nac olwyn menn ar gwmin a dröir;
Eithr â ffon y dyrnir llysiau ’r bara,
A chwmin â gwialen. Yd bara a ysigir (gan ychen).
28Ond nid am byth gan ddyrnu y dyrna efe ef,
Ac yr aflonydda olwyn ei fenn,
Nac â charnau ei (ychen) yr ysiga efe ef.
29A hyn oddi wrth Iehofah y lluoedd a ddaw,
Rhyfeddol yw mewn cyngor, ardderchog mewn gweithred.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.