Psalmau 141 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

CXLI.

1Psalm. Eiddo Dafydd.

O Iehofah, galw Arnat yr wyf,—brysia attaf,

Dyro glust i’m llais wrth alw o honof Arnat!

2Parod yw fy ngweddi, (fel) yr arogl-darth, ger Dy fron,

(A) dyrchafiad fy nwylaw (fel) offrwm y prydnhawn!

3Gosod, O Iehofah, wyliadwriaeth ar fy ngenau,

Cadw ddrws fy ngwefusau!

4Na ogwydda fy nghalon at beth drwg,

I weithredu gweithredoedd mewn annuwioldeb,

Gyda gwŷr a arferant anwiredd;

Ac nac ymborthwyf ar eu danteithion hwynt!

5Tarawed y cyfiawn fi,—caredigrwydd (yw),

Cosped efe fi,— olew ’r pen (yw),

Ni wrthyd fy mhen (ef),—ïe, eilwaith,

A’m gweddi (fydd) yn eu drygfyd!

6Pan y teflir i lawr eu barnwyr hwynt yn ymyl y graig,

Y clywant fy ngeiriau, mai melus ydynt!

7Fel un yn cwyso ac yn hollti yn y ddaear,

Y gwasgarwyd ein hesgyrn i enau annwn;

8Ond Attat Ti, O Iehofah yr Arglwydd, (y mae) fy llygaid,

Ynot Ti yr ymddiriedaf; na thywallt allan fy enaid!

9Cadw fi rhag y fagl a osodasant i mi,

A (rhag) hoenynnau arferwyr anwiredd!

10Syrthio yn ei rwydau ei hun a wnelo ’r annuwiolion,

Tra yr un amser y bo i myfi,—fyned heibio!

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help