1 wna Efe i ti!
Oh’r fath beth a rydd Efe arnat, Oh dafod y twyll,
4Oh saethau’r grymmus, (saethau) llymion,
Ynghyda marwor y banadl!
5 120:5 Meshec. h. y. y bobl a hanodd o Meshec, mab Iapheth (Gen. 10:2.), y rhai a drigent yn Cappadocia, Colchis, Iberia, ac Armenia,—neu, o’r hyn lleiaf, yn y gymmydogaeth honno. Cedar. h. y. y bobl a hanodd o Cedar, mab Ishmael (Gen. 25:17.), y rhai a drigent yn Arabia, ac a dreulient fuchedd grwydredig. Arwyddocêir, dan enwau’r bobloedd hyn, orthrymwyr yr Iwddewon, ac mai barbaraidd a chreulon oeddynt.— Rosenmüller. Gwae fi, fy mod yn preswylio ym Meshec,
Fy mod yn trigo ynghyda phebyll Cedar!
6Hir drig a gafodd fy enaid iddo ei hun
Ynghyda chasâwr heddwch!
7Myfi, heddychol (wyf); ond pan lefarwyf,
Hwynt-hwy (sydd) am ryfel!
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.