Datguddiad 3 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Ac at angel yr eglwys y sydd yn Sardis ysgrifena,

Y pethau hyn a ddywaid yr Hwn sydd a Chanddo saith Yspryd Duw a’r saith seren, Gwn dy weithredoedd di, fod enw genyt dy fod yn fyw, a marw ydwyt. Bydd yn gwylied;

2a chadarnha y pethau yngweddill, y rhai oeddynt ar fedr marw; canys ni chefais dy weithredoedd di wedi eu cyflawni ger bron Fy Nuw.

3Cofia, gan hyny, pa fodd y derbyniaist ac y clywaist, a chadw ac edifarha. Os na wyli, gan hyny, deuaf fel lleidr, ac ni wybyddi ddim pa awr y deuaf arnat.

4Eithr y mae genyt ychydig enwau yn Sardis, y rhai ni halogasant eu dillad; a rhodiant ynghyda Mi mewn dillad gwynion, canys teilwng ydynt.

5Yr hwn sy’n gorchfygu, fel hyn y’i gwisgir mewn dillad gwynion; ac ni ddileaf mo’i enw o lyfr y bywyd; a chyffesaf ei enw ger bron Fy Nhad, a cher bron Ei angylion.

6Yr hwn sydd a chanddo glust, gwrandawed pa beth y mae’r Yspryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi.

7Ac at angel yr eglwys y sydd yn Philadelphia ysgrifena,

Y pethau hyn a ddywaid Y Sanctaidd, Y Gwir, yr Hwn sydd a Chanddo agoriad Dafydd; yr Hwn sydd yn agoryd, ac neb ni chaua; ac yn cau ac nid oes neb yn agoryd,

8Gwn dy weithredoedd di (wele, rhoddais o’th flaen ddrws wedi ei agoryd, yr hwn ni all neb ei gau,) mai ychydig sydd genyt o allu, ac y cedwaist Fy ngair I, ac na wedaist Fy enw.

9Wele, rhoddi yr wyf o sunagog Satan, o’r rhai sy’n dywedyd eu bod hwy yn Iwddewon, ac nid ydynt, eithr celwyddu y maent; wele, gwnaf iddynt ddyfod ac addoli o flaen dy draed, a gwybod ddarfod i Mi dy garu.

10Gan mai cadw gair Fy amynedd a wnaethost, Myfi hefyd a’th gadwaf di oddiwrth awr y brofedigaeth, yr hon awr sydd ar fedr dyfod ar y byd oll, i brofi y rhai sy’n trigo ar y ddaear.

11Dyfod yn fuan yr wyf: dal yn dỳn yr hyn sydd genyt, fel na bo i neb gymmeryd dy goron.

12Yr hwn sy’n gorchfygu, gwnaf ef yn golofn yn nheml Fy Nuw, ac allan nid â efe mwyach er dim; ac ysgrifenaf arno enw Fy Nuw, ac enw dinas Fy Nuw, yr Ierwshalem newydd, yr hon sydd yn disgyn o’r nef oddiwrth Fy Nuw; ac Fy enw newydd.

13Yr hwn sydd a chanddo glust, gwrandawed pa beth y mae’r Yspryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi.

14Ac at angel yr eglwys y sydd yn Laodicea ysgrifena,

Y pethau hyn a ddywaid Yr Amen, Y Tyst ffyddlawn a gwir,

15Dechreuad creedigaeth Duw, Gwn dy weithredoedd, mai nac oer wyt na brwd. O na bait oer neu frwd.

16Felly, gan mai claiar wyt, ac nid yn oer nac yn frwd, yr wyf ar fedr dy chwydo di allan o’m genau.

17Oblegid dywedyd o honot, Goludog wyf, ac yn oludog yr aethum, ac nid oes arnaf eisiau dim, ac na wyddost dy fod di yn druenus, ac yn resynol, ac yn dlawd, ac yn ddall, ac yn noeth,

18dy gynghori yr wyf i brynu Genyf aur wedi ei goethi trwy dân, fel y’th gyfoethoger; a dillad gwynion, fel yr ymwisgech, ac nad amlyger cywilydd dy noethder; ac eli llygaid, i enneinio dy lygaid, fel y gwelech.

19Myfi, cynnifer ag yr wyf yn eu caru, eu hargyhoeddi a’u ceryddu yr wyf.

20Bydd selog, gan hyny, ac edifarha. Wele, sefyll yr wyf wrth y drws, ac yn curo; os clyw neb Fy llais, ac agoryd y drws, deuaf i mewn atto, a swpperaf gydag ef, ac yntau gyda Mi.

21Yr hwn sy’n gorchfygu, rhoddaf iddo i eistedd gyda Mi ar Fy ngorsedd-faingc; fel y gorchfygais Innau hefyd, ac yr eisteddais gyda Fy Nhad ar Ei orsedd-faingc.

22Yr hwn sydd a chanddo glust, gwrandawed pa beth y mae’r Yspryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help