1(Psalm) o eiddo Dafydd.
Iehofah (yw) fy Ngoleuni a’m Hiachawdwriaeth,—rhag pwy yr ofnwn?
Iehofah (yw) Ymddiffynfa fy mywyd,—rhag pwy y dychrynwn?
2Pan neshâodd attaf ddrwgweithredwyr i fwytta fy nghnawd,
Fy ngorthrymwyr a’m caseion,
Hwynt-hwy a wegiasant ac a syrthiasant.
3Os gwersylla yn fy erbyn lu, nid ofna fy nghalon,
Os cyfyd i’m herbyn ryfel, yn hwnnw myfi (fyddaf) hyderus.
4Un peth a ddeisyfiais gan Iehofah,—am hwnnw y gofynaf,—
Am drigo o honof yn nhŷ Iehofah holl ddyddiau fy mywyd,
Er mwyn edrych ar yr hyn sydd hyfryd gan Iehofah,
Ac er mwyn ardremu yn ni deml Ef;
5Canys cuddiodd Efe fi yn Ei dŷ yn nydd drygfyd,
Celodd fi yn nirgelfa Ei babell,
Ac ar y graig y’m huchel-osododd:
6Ac yn awr y dyrchefir fy mhen goruwch fy ngelynion o’m hamgylch,
Ac yr aberthaf yn Ei babell Ef ebyrth yr udgornfloedd,
Y per-leisiaf, ac y canaf âg offer cerdd i Iehofah.
7Clyw, O Iehofah, fy llais,—galw yr wyf,
A bydd radlawn wrthyf, a gwrando fi!
8Am danat Ti y dywaid fy nghalon, “Ceisiwch Fy ngwyneb,”
Dy wyneb, O Iehofah, a geisiaf!
9Na chuddia Dy wyneb oddi wrthyf,
Na fydded it’ mewn soriant fwrw ymaith Dy was!
Fy Nghymmorth fuost, na wrthod fi,
Ac na ad fi, O Dduw fy iachawdwriaeth!
10Canys fy nhad a’m mam a’m gadawsant,
Ond Iehofah a’m dwg i fewn.
11Dysg i mi, O Iehofah, Dy ffordd,
Ac arwain fi mewn llwybr uniawn,
O herwydd y rhai sy’n gwasgu arnaf,
12Na ddyro fi i fynu i ewyllys y rhai sy’n cyfyngu arnaf,
Canys cyfododd i’m herbyn dystion gau ac anadlwyr trais.
13 Pe na chredaswn weled daioni Iehofah yn nhir y rhai byw!—
14Gobeithia yn Iehofah,
Ymgryfhâ, ac ymwroled dy galon,
A gobeithia yn Iehofah!
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.