1Distêwch ger Fy mron, chwi diroedd pell;
Ac adnewydded y cenhedloedd (eu) nerth,
Neshâont, yna llefaront;
Cyd-nesâwn i farn.
2 Pwy a gyfododd y cyfiawn o’r dwyrain,
A’i galwodd at ei draed,
A roddodd yn ei ŵydd ef y cenhedloedd,
Ac a 2ddiorseddodd 1frenhinoedd?
『2Fel llwch』 『1y gwnaeth』 ei gleddyf ef (hwynt),
Ac fel sofl gwasgaredig (y gwnaeth) ei fwa ef (hwynt);
3Efe a’u herlidiodd, efe a dramwyodd yn ddiogel
Ar hŷd lwybr 『2na cherddasai』 efe 『1â’i draed.』
4Pwy a weithredoedd ac a wnaeth (hyn)
Gan alw ’r cenhedlaethau o’r dechreuad?
Myfi Iehofah, y Cyntaf
A chyda’r diweddaf, Myfi (yw) Efe.
5Gwelodd y tiroedd pell ac ofnasant,
Eithafoedd y ddaear a ddychrynasant,
Nesasant a daethant.
6Pob un ei gymhar a gynnorthwyodd,
Ac i’w frawd y dywedodd, Ymgryfhâ.
7Calonnogodd y saer y gôf,
Y llyfniedydd â morthwyl y tarawydd ar yr eingion,
Gan ddywedyd am yr asiad, Da yw,
Ac efe a’i sicrhâodd â hoelion fel nad ysgoger.
8Eithr tydi, Israel Fy ngwas,
Iacob, yr hwn a etholais,
Hâd Abraham Fy anwylyd,
9Ti, yr hwn a gymmerais wrth dy law o eithafoedd y ddaear,
Ac o’i chyrrau a ’th elwais,
Ac y dywedais wrthyt, Fy ngwas i (wyt, sef) tydi,
Etholais di, ac ni ’th ddirmygais;
10Nac ofna, canys gyd â thi (yr wyf) Fi Fy hun,
Nac arswyda, canys Myfi (yw) dy Dduw di,
Cadarnhâf di, yn ddïau cynnorthwyaf di,
Yn ddïau cynnaliaf di â deheulaw Fy nghyfiawnder.
11Wele, cywilyddir a gwaradwyddir y rhai oll a lidiasent wrthyt;
Bydd megis diddym, a difethir gwŷr dy ymryson;
12Ti a’u ceisi, ac nis cei hwynt, (sef) gwŷr dy gynhen,
Byddant megis dim a diddym, (sef) gwŷr dy ryfel, y gwŷr a ryfelasent â thi.
13Canys Myfi, Iehofah dy Dduw di, (wyf) yn ymaflyd yn dy ddeheulaw,
Yr Hwn sy’n dywedyd wrthyt, “Nac ofna, Myfi a’th gynnorthwyaf.”
14Nac ofna di, bryf Iacob, chwi farwolion Israel,
Myfi a’th gynnorthwyaf, medd Iehofah,
A’th Ymddialydd, Sanct Israel.
15Wele, gosodais di yn fenn-ddyrnu,
Yn og-ddyrnu newydd (a) pherchen dannedd;
Ti a ddyrni y mynyddoedd ac a (’u) meli,
A’r bryniau fel us a wnei:
16Nithi hwynt, a’r gwŷnt a’u dwg ymaith,
A chorwỳnt a’u gwasgar hwynt;
Ond tydi a orfoleddi yn Iehofah,
Yn Sanct Israel yr ymglodfori.
17Y trueiniaid a’r tlodion sy’n ceisio dyfroedd, ond nid (oes dim),
Eu tafodau gan syched a sychant,
Myfi Iehofah a’u hattebaf hwynt,
(Myfi) Duw Israel ni adawaf hwynt.
18Agoraf ar yr uchelfëydd afonydd,
Ac ynghanol y dyffrynoedd ffynhonnau,
Gwnaf y diffaethwch yn llyn dyfroedd,
A’r crasdir yn ffrydiau dyfroedd.
19Rhoddaf yn y diffaethwch y cedrwŷdd,
Draenen yr Aipht, myrtwŷdd, a’r pren olew,
Gosodaf yn yr anialwch ffynnidwŷdd,
Ffawŷdd, a’r yspeinwŷdd ynghŷd;
20Fel y gwelont, ac y gwybyddont,
Ac yr ystyriont, ac y deallont ynghŷd,
Mai llaw Iehofah a wnaeth hyn,
A Sanct Israel a’i creodd.
21Deuwch yn nes â ’ch dadl, medd Iehofah,
Neshêwch eich nerthoedd, medd Brenhin Iacob:
22Neshâont a dywedont wrthym y pethau a ddigwyddant;
(Am) y rhai cyntaf, 『2dywedont hwy』 『1beth a fyddant,』
Fel y dodom ein meddyliau arnynt, ac y gwypom eu diwedd;
Neu ’r pethau a ddaw (wedi hynny), gwnelont hwy i ni eu clywed.
23Mynegwch y pethau a ddaw yn yr amser diweddaf,
Fel y gwypom mai Duwiau chwychwi:
Ië gwnewch ddaioni, a gwnewch ddrygioni,
Fel y synno arnom ac y gwelom ynghŷd.
24Wele chwi (sydd) lai na dim,
A’ch gweithrediad llai na diddym,
Ffieidd-dra (yw ’r hwn) a ’ch dewiso chwi.
25Cyfodais un o’r gogledd, ac efe a ddaw,
O gyfodiad haul y geilw efe ar Fy enw,
Ac efe a aiff (ar) dywysogion fel (ar) glai,
Ac fel y mae crochenydd yn sathru pridd.
26Pwy a fynegodd hyn o’r dechreuad, fel y gwybyddom ef?
Ac ym mlaen llaw, fel y dywedom, “Iawn yw?”
Yn ddïau nid (oedd) a fynegai; yn ddïau nid (oedd) a hyspysai;
Yn ddïau nid (oedd) a glywai eich ymadrodd.
27Yn y cyntaf, (y gair) i Tsïon “Wele, wele hwynt,”
Ac i Ierwshalem gyhoeddwr, Mi a’u rhoes.
28Ac edrychais, ond nid (oedd) neb,
Ac ym mhlith y rhai hynny, ond nid oedd a gynghorai,
A phan ofynais iddynt (nid oedd) a attebai air.
29Wele, hwy oll (sydd) wagedd, diddym yw eu gweithredoedd.
Gwỳnt a gwagder yw eu tawdd-ddelwau.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.