S. Matthew 14 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Yr amser hwnw y clybu Herod y tetrarch y son am yr Iesu,

2a dywedodd wrth ei weision, Hwn yw Ioan Fedyddiwr: efe a gyfododd o feirw, ac o herwydd hyn y mae’r gwyrthiau yn gweithio ynddo.

3Canys Herod, wedi cymmeryd gafael yn Ioan, a’i rhwymodd ac a’i dododd yngharchar o achos Herodias, gwraig Philip ei frawd,

4canys dywedodd Ioan wrtho, Nid yw gyfreithlawn i ti fod â hi genyt.

5Ac er ewyllysio o hono ei ladd ef, ofnodd y dyrfa, canys megis prophwyd y cymmerent ef.

6A dydd genedigaeth Herod wedi digwydd, dawnsiodd merch Herodias yn eu plith, a rhyngodd fodd Herod;

7o ba herwydd gyda llw yr addawodd iddi roddi pa beth bynnag a ofynai.

8A hithau, wedi ei hannog gan ei mam, Dyro i mi, ebr hi, yma, ar ddysgl, ben Ioan Fedyddiwr.

9A phoenwyd y brenhin; ond o herwydd y llwon a’r rhai a gydledorweddent wrthy bwrdd, gorchymynodd ei roddi;

10a chan ddanfon, torrodd ben Ioan yn y carchar.

11A dygpwyd ei ben ef ar ddysgl, a rhoddwyd ef i’r llangces, ac aeth hi ag ef i’w mam.

12A daeth ei ddisgyblion a chymmerasant y gelain; a chladdasant ef; a daethant a mynegasant i’r Iesu.

13A phan glywsai’r Iesu, ciliodd oddi yno, mewn cwch, i le anial o’r neilldu; ac wedi clywed o’r torfeydd, canlynasant Ef, ar draed, o’r dinasoedd.

14Ac wedi myned allan, gwelodd dyrfa fawr, a thosturiodd wrthynt, ac iachaodd eu cleifion.

15A’r hwyr wedi dyfod, daeth y disgyblion Atto, gan ddywedyd, Anial yw y lle, a’r awr weithian a aeth heibio: gollwng ymaith y dyrfa, fel, wedi myned ymaith i’r pentrefi, y prynont iddynt eu hunain fwyd.

16A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Nid oes rhaid iddynt fyned ymaith: rhoddwch chwi iddynt beth i’w fwytta.

17A hwy a ddywedasant Wrtho, Nid oes genym yma ond pum torth a dau bysgodyn.

18Ac Efe a ddywedodd, Dygwch hwynt i Mi, yma.

19Ac wedi gorchymyn i’r torfeydd led-orwedd ar y glaswellt, a chymmeryd y pum torth a’r ddau bysgodyn, ac wedi edrych i fynu tua’r nef, bendithiodd; ac wedi torri, rhoddodd y torthau i’r disgyblion, a’r disgyblion i’r torfeydd.

20A bwyttasant oll, a digonwyd hwynt: a chodasant yr hyn oedd dros ben o’r briwfwyd, ddeuddeg cawell yn llawn.

21A’r rhai oedd yn bwytta, oeddynt ynghylch pum mil o wŷr, heb law gwragedd a phlant.

22Ac yn uniawn y cymhellodd Efe y disgyblion i fyned i’r cwch, ac i fyned o’i flaen Ef i’r lan arall, tra y gollyngai ymaith y torfeydd.

23Ac wedi gollwng ymaith y torfeydd, esgynodd i’r mynydd ar Ei ben Ei Hun, i weddïo; a’r hwyr wedi dyfod yr oedd Efe yno yn unig.

24A’r cwch oedd weithian ynghanol y môr, yn drallodus gan y tonnau, canys gwrthwynebus oedd y gwynt.

25Ac yn y bedwaredd wylfa o’r nos daeth Efe attynt, gan rodio ar y môr;

26a’r disgyblion wedi Ei weled Ef ar y môr, yn rhodio, a gythryflwyd, gan ddywedyd, Drychiolaeth yw, a chan ofn y gwaeddasant.

27Ac yn uniawn y llefarodd yr Iesu wrthynt,

28gan ddywedyd, Byddwch hyderus: Myfi yw: nac ofnwch. A chan atteb Iddo, Petr a ddywedodd, Arglwydd, os Tydi yw, arch ddyfod o honof Attat Ti ar y dwfr.

29Ac Efe a ddywedodd, Tyred. Ac wedi disgyn o’r cwch, Petr a rodiodd ar y dwfr, i ddyfod at yr Iesu:

30ac wrth weled y gwynt, dychrynwyd ef; ac wedi dechreu suddo, gwaeddodd, gan ddywedyd, Arglwydd, achub fi.

31Ac yn uniawn yr Iesu, wedi estyn Ei law, a ymaflodd ynddo, ac a ddywedodd wrtho, O ddyn o ychydig ffydd, paham yr ammeuaist?

32Ac wedi esgyn o honynt i’r cwch, peidiodd y gwynt,

33a’r rhai oedd yn y cwch a addolasant Ef, gan ddywedyd, Yn wir Mab Duw wyt Ti.

34Ac wedi myned trosodd, daethant i’r lan, i Gennesaret;

35a chan Ei adnabod Ef, gwŷr y fan honno a anfonasant i’r holl wlad honno o amgylch, a dygasant Atto yr holl rai drwg eu hwyl;

36ac attolygasant Iddo gael ond cyffwrdd o honynt ag ymyl Ei gochl; a chynnifer ag a gyffyrddasant, a wnaethpwyd yn holl-iach.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help