Yr Actau 8 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1a Shawl oedd yn cydsynied i’w ddistryw ef.

A chyfododd y dydd hwnw erlid mawr ar yr eglwys oedd yn Ierwshalem, a’r oll o honynt a wasgarwyd trwy barthau Iwdea a Shamaria, namyn yr apostolion.

2A Stephan a ddug dynion crefyddol i’w gladdu, a gwnaethant alar mawr am dano.

3A Shawl a anrheithiai’r eglwys, yn eu tai, gan fyned i mewn, a chan lusgo allan wŷr a gwragedd, traddodai hwynt i garchar.

4Y rhai a wasgarwyd, gan hyny, a dramwyasant gan efengylu’r Gair.

5A Philip wedi myned i wared i ddinas Shamaria, a bregethai iddynt Grist.

6A’r torfeydd a ddaliasant sylw ar y pethau a ddywedid gan Philip, yn unfryd, wrth eu clywed hwynt a gweled yr arwyddion a wnelai efe;

7canys llawer o’r rhai ag ysprydion aflan ganddynt, y rhai, gan floeddio â llef uchel, a ddeuent allan,

8a llawer yn gleifion o’r parlys, a chloffion, a iachawyd; a bu llawenydd mawr yn y ddinas honno.

9Ond rhyw ddyn a’i enw Shimon oedd o’r blaen yn y ddinas yn swyno ac yn peri syndod i genedl Shamaria, gan ddywedyd ei fod efe ei hun yn rhywun mawr;

10ac iddo y rhoddai pawb glust, o fychan hyd fawr, gan ddywedyd, Hwn yw gallu Duw, yr hwn a elwir Mawr.

11A rhoddent glust iddo, am mai am amser maith y bu iddo â’i swynion beri syndod iddynt.

12Ond pan gredasant i Philip yn efengylu ynghylch teyrnas Dduw ac enw Iesu Grist, bedyddid hwynt yn wŷr ac yn wragedd:

13a Shimon, yntau hefyd a gredodd, ac wedi ei fedyddio, a barhaodd ynghyda Philip; a chan weled yr arwyddion a’r gwyrthiau mawrion a wneid, synnodd arno.

14Ac wedi clywed o’r apostolion oedd yn Ierwshalem, y derbyniasai Shamaria Air Duw, danfonasant attynt Petr ac Ioan,

15y rhai wedi eu dyfod i wared, a weddïasant drostynt,

16ar dderbyn o honynt yr Yspryd Glân, canys hyd yn hyn nid oedd Efe wedi syrthio ar neb o honynt, ac nid oeddynt ond wedi eu bedyddio i enw yr Arglwydd Iesu.

17Yna y dodasant eu dwylaw arnynt, a derbyniasant hwythau yr Yspryd Glân.

18A chan weled o Shimon mai trwy osodiad dwylaw yr apostolion y rhoddwyd yr Yspryd Glân,

19daeth ag arian attynt, gan ddywedyd, Rhoddwch i minnau hefyd yr awdurdod hon, fel ar bwy bynnag y gosodwyf fy nwylaw, y caffo yr Yspryd Glân.

20A Petr a ddywedodd wrtho, Dy arian, ynghyda thydi, a fydded i ddistryw, gan mai rhodd Duw a feddyliaist gael trwy arian.

21Nid oes i ti na rhan nac etifeddiaeth yn y peth hwn, canys dy galon nid yw uniawn ger bron Duw.

22Edifarha, gan hyny, am dy ddrygioni hwn, a gweddïa Dduw,

23os ysgatfydd y maddeuir i ti feddwl dy galon, canys ym mustl chwerw ac yn rhwym anghyfiawnder y gwelaf dy fod di.

24A chan atteb, Shimon a ddywedodd, Gweddïwch chwi drosof at yr Arglwydd na bo i ddim ddyfod arnaf o’r pethau a ddywedasoch.

25A hwy, gan hyny, wedi tystiolaethu a llefaru Gair yr Arglwydd, a ddychwelasant i Ierwshalem, ac i lawer o bentrefi y Shamariaid yr efengylasant.

26Ac angel yr Arglwydd a lefarodd wrth Philip, gan ddywedyd, Cyfod a dos tua’r dehau i’r ffordd sy’n myned i wared o Ierwshalem i Gaza, yr hon sydd anial.

27Ac wedi cyfodi yr aeth; ac wele, gŵr o Ethiopia, swyddwr galluog i Candace, brenhines yr Ethiopiaid, yr hwn oedd ar ei holl drysor hi, yr hwn a ddaethai i Ierwshalem i addoli;

28ac yr oedd yn dychwelyd ac yn eistedd yn ei gerbyd, a darllenai y prophwyd Eshaiah.

29A dywedodd yr Yspryd wrth Philip, Dos at, a glyn wrth, y cerbyd hwn.

30Ac wedi rhedeg atto, Philip a glywodd ef yn darllen Eshaiah y prophwyd, a dywedodd, A wyt ti ysgatfydd yn deall y pethau yr wyt yn eu darllen?

31Ac efe a ddywedodd, Canys pa fodd y gallaf oddieithr i ryw un fy nghyfarwyddo? A dymunodd ar Philip ddyfod i fynu ac eistedd gydag ef;

32a’r lle o’r Ysgrythyr yr hwn a ddarllenai oedd hwn,

“Fel dafad i’r lladdfa yr arweiniwyd ef,

Ac fel oen ger bron ei gneifiwr yn fud,

Felly nid agorodd ei enau:

33Yn ei ostyngiad ei farn a ddygpwyd ymaith,

Ei genhedlaeth ef pwy a fynega,

Canys dygir ymaith ei fywyd oddiar y ddaear?”

34A chan atteb i Philip, y swyddwr a ddywedodd, Attolwg i ti, am bwy y mae’r prophwyd yn dywedyd hyn? Ai am dano ei hun, neu am ryw un arall?

35A Philip, wedi agor ei enau a dechreu o’r ysgrythyr hon, a efengylodd iddo yr Iesu.

36Ac fel yr aent ar hyd y ffordd, daethant at ryw ddwfr; ac ebr y swyddwr, Wele ddwfr, pa beth a luddias fy medyddio?

38A gorchymynodd sefyll o’r cerbyd. Ac aethant i wared ill dau i’r dwfr, Philip ac yr eunuch; a bedyddiodd efe ef.

39A phan ddaethant i fynu o’r dwfr, Yspryd yr Arglwydd a gipiodd Philip, ac ni welodd y swyddwr ef mwyach; canys aeth ei ffordd dan lawenychu.

40A Philip a gaed yn Azotus; a chan dramwy, efengylodd yn y dinasoedd oll nes dyfod o hono i Cesarea.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help