Datguddiad 1 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Datguddiad Iesu Grist, yr hwn a roddes Duw iddo, i ddangos i’w weision y pethau sydd a rhaid iddynt ddigwydd ar fyrder; ac hyspysodd, gan ddanfon trwy Ei angel,

2i’w was Ioan, yr hwn a dystiolaethodd am air Duw a thystiolaeth Iesu Grist, am gymmaint o bethau ag a welodd.

3Dedwydd yw’r hwn sy’n darllain, a’r rhai sy’n clywed geiriau y brophwydoliaeth, ac yn cadw y pethau sydd wedi eu hysgrifenu ynddi hi, canys yr amser sydd agos.

4Ioan, at y saith eglwys sydd yn Asia: Gras i chwi, a thangnefedd oddiwrth Yr Hwn sydd ac yr Hwn oedd ac yr Hwn sydd yn dyfod, ac oddiwrth y saith Yspryd y sydd ger bron Ei orsedd-faingc;

5ac oddiwrth Iesu Grist, yr Hwn yw y Tyst ffyddlawn, Cyntafanedig y meirw, a Llywodraethwr brenhinoedd y ddaear. I’r Hwn sydd yn ein caru, ac a’n rhyddhaodd o’n pechodau trwy Ei waed;

6a gwnaeth ni yn frenhiniaeth, yn offeiriaid i Dduw a’i Dad Ef; Iddo Ef bydded y gogoniant a’r gallu yn oes oesoedd. Amen.

7Wele, dyfod y mae gyda’r cymmylau; a’i weled Ef fydd i bob llygad, ac i’r rhai a’i gwanasant Ef; a galaru Trosto fydd i holl lwythau’r ddaear. Ië; Amen.

8Myfi yw’r Alpha a’r Omega, medd yr Arglwydd Dduw, Yr Hwn sydd ac yr Hwn oedd ac yr Hwn sydd yn dyfod, yr Hollalluog.

9Myfi Ioan, eich brawd a chyd-gyfrannog yn y gorthrymder a’r deyrnas ac amynedd yn yr Iesu, oeddwn yn ynys a elwir Patmos, o achos gair Duw a thystiolaeth Iesu.

10Yr oeddwn yn yr yspryd ar ddydd yr Arglwydd, a chlywais o’r tu ol i mi lef fawr fel swn udgorn,

11yn dywedyd, Yr hyn a weli, ysgrifena mewn llyfr, a danfon ef at y saith eglwys, i Ephesus, ac i Smurna, ac i Pergamus, ac i Thuatira, ac i Sardis, ac i Philadelphia, ac i Laodicea.

12A throais i weled y llef a lefarai â mi; ac wedi troi, gwelais saith ganhwyllbren aur,

13ac ynghanol y canhwyllbrennau, un tebyg i Fab y dyn, wedi ymwisgo â gwisg laes hyd Ei draed, ac wedi ymwregysu ynghylch Ei fronnau â gwregys aur;

14ac Ei ben a’i wallt yn wynion fel gwlan gwyn, fel eira;

15a’i lygaid fel fflam dân; ac Ei draed yn debyg i Chalcolibanus, fel wedi eu llosgi mewn ffwrn; ac Ei lais fel swn dyfroedd lawer;

16ac a Chanddo yn Ei law ddehau saith seren; ac allan o’i enau, cleddyf dau-finiog llym oedd yn dyfod; ac Ei wynebpryd fel y mae’r haul yn disgleirio yn ei nerth.

17A phan welais Ef, syrthiais wrth Ei draed, fel marw; a rhoddodd Efe Ei law ddehau arnaf, gan ddywedyd, Nac ofna, Myfi yw’r Cyntaf a’r Diweddaf,

18ac yr Hwn sydd fyw, ac aethum yn farw, ac wele, byw ydwyf yn oes oesoedd; a Chenyf y mae agoriadau marwolaeth a Hades.

19Ysgrifena, gan hyny, y pethau a welaist, ac y pethau y sydd, ac y pethau y sydd ar fedr digwydd ar ol hyn;

20dirgelwch y saith seren y rhai a welaist yn Fy llaw ddehau, a’r saith canhwyllbren aur. Y saith seren, angylion y saith eglwys ydynt; a’r saith ganhwyllbren, y saith eglwys ydynt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help