Psalmau 3 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

III.

1Psalm Dafydd, pan ffôdd efe rhag Abshalom.

Iehofah, mor aml yw fy ngelynion!

Llawer y rhai sy’n codi i ’m herbyn;

2Llawer y rhai sy’n dywedyd am fy enaid,

“Nid (oes) waredigaeth iddo yn Nuw.” Selah.

3Ond Tydi, Iehofah, (wyt) Darian o’m hamgylch,

Fy Ngogoniant, a Derchafydd fy mhen:

4A fy llais ar Iehofah yr wyf yn llefain,

Ac Efe a ’m clyw o fynydd Ei sancteiddrwydd. Selah.

5Myfi a orweddwn ac a hunwn,

Deffrôwn, canys Iehofah a ’m cynhaliai;

6Nid ofnaf fyrddiynnau o bobl,

Y rhai o amgylch sy’n gwersyllu i ’m herbyn.

7Cyfod, Iehofah; gwared fi, Arglwydd;

Canys tarewit fy holl elynion ar y rudd,

Dannedd yr annuwiolion a chwilfriwit.

8Eiddo Iehofah (yw) gwaredigaeth;

Ar Dy bobl (y bo) Dy fendith! Selah.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help