S. Matthew 11 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1A bu pan orphenodd yr Iesu orchymyn i’w ddeuddeg disgybl, yr aeth oddi yno i ddysgu a phregethu yn eu dinasoedd hwynt.

2Ac Ioan, wedi clywed yn y carchar weithredoedd Crist,

3ac wedi danfon trwy ei ddisgyblion, a ddywedodd Wrtho, Ai Tydi yw’r Hwn sy’n dyfod, neu un arall yr ym yn ei ddisgwyl?

4A chan atteb, yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Wedi myned, mynegwch i Ioan y pethau a glywch ac a welwch:

5y mae deillion yn gweled eilwaith, a chloffion yn rhodio, cleifion gwahanol yn cael eu glanhau, a byddariaid yn clywed, a meirw yn cael eu cyfodi; a thlodion yn cael pregethu’r efengyl iddynt;

6a dedwydd yw pwy bynnag na thramgwydder Ynof.

7A’r rhai hyn yn myned eu ffordd, dechreuodd yr Iesu ddywedyd wrth y torfeydd am Ioan, Pa beth yr aethoch allan i’r anialwch i edrych arno? ai corsen a gwynt yn ei hysgwyd?

8Eithr pa beth yr aethoch allan i’w weled? ai dyn â gwisgoedd esmwyth am dano? Wele, y rhai sy’n gwisgo’r gwisgoedd esmwyth, yn nhai’r brenhinoedd y maent.

9Eithr pa beth yr aethoch allan i’w weled? Ai prophwyd? Ië, meddaf i chwi a rhagorolach na phrophwyd.

10Hwn yw efe am yr hwn yr ysgrifenwyd,

“Wele, yr wyf Fi yn danfon Fy nghennad o flaen Dy wyneb,

Yr hwn a barottoa Dy ffordd o’th flaen.”

11Yn wir meddaf i chwi, Ni chyfodwyd ymhlith y rhai a anwyd o wragedd, un mwy nag Ioan Fedyddiwr: ond y lleiaf yn nheyrnas nefoedd, mwy nag ef yw.

12Ac o ddyddiau Ioan Fedyddiwr hyd yn awr teyrnas nefoedd a dreisir, a threiswyr a’i cipiant hi:

13canys yr holl Brophwydi a’r Gyfraith, hyd Ioan y prophwydasant;

14ac os ewyllysiwch ei dderbyn, efe yw’r Elias ar fedr dyfod.

15Y neb sydd a chanddo glustiau i wrando, gwrandawed.

16Ac i ba beth y cyffelybaf y genhedlaeth hon? Cyffelyb yw i blant yn eistedd yn y marchnadoedd,

17y rhai gan lefain wrth eu cyfeillion, a ddywedant, Canasom bibell i chwi, ac ni ddawnsiasoch;

18canasom alarnad, ac ni chwynfanasoch; canys daeth Ioan nac yn bwytta nac yn yfed, a dywedasant, Cythraul sydd ganddo;

19daeth Mab y Dyn yn bwytta ac yn yfed, a dywedant, Wele, dyn glwth ac yfwr gwin, cyfaill treth-gymmerwyr a phechaduriaid. Ond cyfiawnheir doethineb gan ei gweithredoedd.

20Yna y dechreuodd Efe edliw i’r dinasoedd yn y rhai y buasai y rhan fwyaf o’i wyrthiau, am nad edifarhasent.

21Gwae di Corazin; gwae di Bethtsaida; canys ped yn Tyrus ac yn Tsidon y buasai’r gwyrthiau a fuant ynoch, er ys talm mewn sachlïain a lludw yr edifarhasent.

22Ond meddaf i chwi, i Tyrus a Tsidon y bydd yn fwy dioddefadwy yn nydd y farn nag i chwi.

23A thydi, Caphernahwm, ai hyd y nef y’th ddyrchefid? Hyd Hades y disgyni, canys ped yn Sodom y buasai’r gwyrthiau a fuant ynot ti, arosasai hyd heddyw.

24Ond dywedaf wrthych, I dir Sodom y bydd yn fwy dioddefadwy yn nydd y farn nag i ti.

25Yr amser hwnw, gan atteb, yr Iesu a ddywedodd, Diolchaf i Ti, O Dad, Arglwydd y nef a’r ddaear, am guddio o Honot y pethau hyn rhag doethion a rhai deallus, a’u datguddio i fabanod.

26Ië, O Dad, canys felly y boddlonwyd ger Dy fron.

27Pob peth, i Mi y’i traddodwyd gan Fy Nhad: ac nid edwyn neb y Mab, oddieithr y Tad; nac y Tad nid yw neb yn Ei adnabod oddieithr y Mab, a phwy bynnag yr ewyllysio’r Mab Ei ddatguddio Ef iddo.

28Deuwch Attaf bawb y sy’n flinderog ac yn llwythog, ac Myfi a roddaf orphwysdra i chwi.

29Cymmerwch Fy iau arnoch, a dysgwch Genyf, canys addfwyn Wyf a gostyngedig o galon,

30a chewch orphwysdra i’ch eneidiau; canys Fy iau sydd esmwyth; ac Fy maich, ysgafn yw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help