1I’r blaengeiniad. I feibion Corah. Psalm.
2Caredig fuost, O Iehofah, i’th dir;
Dychwelaist gaethiwed Iacob,
3Maddeuaist anwiredd Dy bobl,
Cuddiaist eu holl bechodau, Selah.
4Tynnaist ymaith Dy holl lid,
Dychwelaist oddi wrth angerdd Dy ddigter:
5Dychwel ni, O Dduw ein iachawdwriaeth,
A thor ymaith Dy soriant wrthym!
6Ai yn dragywydd y gwythi wrthym?
A estyni Di Dy ddigter hyd genhedlaeth a chenhedlaeth?
7Onid Tydi a ddychweli a’n bywhâu ni,
Fel y bo i’th bobl lawenychu Ynot?
8Par i ni weled, O Iehofah, Dy drugaredd,
A’th iachawdwriaeth dyro i ni!
9Gwrandawaf beth a lefara Duw Iehofah,
Canys llefara Efe heddwch i’w bobl ac i’w saint:
Ond na ddychwelant at ynfydrwydd!
10“Yn ddïau, agos i’r rhai a’i hofnont Ef (yw) Ei iachawdwriaeth,
Fel y trigo y Gogoniant yn ein tir;
11 Trugaredd a ffyddlondeb a ymgyfarfuant,
Cyfiawnder a heddwch a ymgusanasant;
12—Ffyddlondeb, o’r ddaear y tardda,
Cyfiawnder, o’r nefoedd yr edrych i lawr,—
13Hefyd, Iehofah a rydd yr (hyn sy) dda,
A’n tir a rydd ei gnwd;
14Cyfiawnder o’i flaen Ef a rodia,
Ac a esyd (ei draed) ar ffordd Ei garnrau Ef.”
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.