1Llyfr genedigaeth Iesu Grist, fab Dafydd, fab Abraham.
2Abraham a genhedlodd Itsaac; ac Itsaac a genhedlodd Iacob;
3ac Iacob a genhedlodd Iwdah a’i frodyr; ac Iwdah a genhedlodd Pharets a Zara o Thamar; a Pharets a genhedlodd Etsrom; ac Etsrom a genhedlodd Ram;
4a Ram a genhedlodd Aminadab; ac Aminadab a genhedlodd Naashon;
5a Naashon a genhedlodd Salmon; a Salmon a genhedlodd Boaz o Rachab; a Boaz a genhedlodd Obed, o Rwth;
6ac Obed a genhedlodd Ieshe; ac Ieshe a genhedlodd Ddafydd frenhin.
A Dafydd frenhin a genhedlodd Shalomon o’r hon a fuasai wraig Wriah;
7a Shalomon a genhedlodd Roboam; a Roboam a genhedlodd Abiah; ac Abiah a genhedlodd Asa;
8ac Asa a genhedlodd Ieoshaphat; ac Ieoshaphat a genhedlodd Ioram;
9ac Ioram a genhedlodd Oziah: ac Oziah a genhedlodd Iotham;
10ac Iotham a genhedlodd Achaz; ac Achaz a genhedlodd Ezeciah; ac Ezeciah a genhedlodd Manashsheh;
11a Manashsheh a genhedlodd Amon; ac Amon a genhedlodd Ioshiah; ac Ioshiah a genhedlodd Ieconiah a’i frodyr, ar amser y traws-symmudiad i Babilon.
12Ac wedi’r traws-symmudiad i Babilon, Ieconiah a genhedlodd Shalathiel; a Shalathiel a genhedlodd Zorobabel;
13a Zorobabel a genhedlodd Abiwd; ac Abiwd a genhedlodd Eliacim;
14ac Eliacim a genhedlodd Azor; ac Azor a genhedlodd Tsadoc; a Tsadoc a genhedlodd Iacin; ac Iacin a genhedlodd Eliwd;
15ac Eliwd a genhedlodd Eleazer;
16ac Eleazer a genhedlodd Mattan; a Mattan a genhedlodd Iacob; ac Iacob a genhedlodd Ioseph, gŵr Mair, o’r hon y ganed Iesu, yr Hwn a elwir Crist.
17Yr holl genhedlaethau, gan hyny, o Abraham hyd Ddafydd, pedair cenhedlaeth ar ddeg ydynt; ac o Ddafydd hyd y traws-symmudiad i Babilon, pedair cenhedlaeth ar ddeg; ac o’r traws-symmudiad i Babilon hyd Grist, pedair cenhedlaeth ar ddeg.
18A genedigaeth yr Iesu Grist, fel hyn yr oedd; Wedi dyweddïo Ei fam Ef, Mair, âg Ioseph, cyn dyfod o honynt ynghyd, cafwyd hi yn feichiog o’r Yspryd Glan.
19Ac Ioseph, ei gwr hi, gan ei fod yn gyfiawn, ac na fynnai ei gosod hi yn watwor, a ewyllysiodd ei rhoddi hi ymaith yn ddirgel.
20Ac efe yn meddwl y pethau hyn, wele, angel yr Arglwydd, mewn breuddwyd, a ymddangosodd iddo, yn dywedyd, Ioseph, Mab Dafydd, nac ofna gymmeryd Mair dy wraig, canys yr hyn a genhedlwyd ynddi, o’r Yspryd Glan y mae;
21ac esgora hi ar fab, a gelwi Ei enw Ef Iesu, canys Efe a wared Ei bobl oddi wrth eu
22pechodau. A hyn oll a ddigwyddodd fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd gan yr Arglwydd trwy’r prophwyd, gan ddywedyd,
23“Wele, y forwyn fydd feichiog, ac a esgor ar fab;
A galwant Ei Enw Ef Immanwel”
yr hyn, o’i gyfieithu, yw, “Gyda ni Duw.”
24Ac Ioseph, wedi cyfodi o’i gwsg, a wnaeth fel y gorchymynodd angel yr Arglwydd iddo,
25ac a gymmerodd ei wraig, ac nid adnabu hi nes esgor o honi ar fab; a galwodd Ei enw Ef Iesu.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.