1A gwelais ar law ddehau yr Hwn yn Ei eistedd ar yr orsedd-faingc, lyfr wedi ei ’sgrifenu oddifewn ac ar y cefn, wedi ei selio â saith sel.
2A gwelais angel cryf yn cyhoeddi â llef fawr, Pwy sydd deilwng i agoryd y llyfr, ac i ddattod ei seliau?
3Ac ni allai neb yn y nef, nac ar y ddaear, na than y ddaear, agoryd y llyfr, nac edrych arno.
4Ac mi a wylais lawer gan na chafwyd neb teilwng i agoryd y llyfr, nac i edrych arno;
5ac un o’r henuriaid a ddywedodd wrthyf, Nac wyla. Wele, gorchfygodd y Llew y sydd o lwyth Iwdah, Gwreiddyn Dafydd, i agoryd y llyfr a’i saith sel.
6A gwelais rhwng yr orsedd-faingc a’r pedwar anifail a’r henuriaid, oen yn sefyll fel wedi ei ladd, a chanddo saith gorn a saith llygad, y rhai ydynt saith Yspryd Duw, danfonedig i’r holl ddaear.
7A daeth Efe, a chymmerodd ef allan o law ddehau yr Hwn oedd yn eistedd ar yr orsedd-faingc;
8a phan gymmerodd Efe y llyfr, y pedwar anifail a’r pedwar henuriad ar hugain, a syrthiasant ger bron yr Oen, a chanddynt, bob un, delyn, a phialau aur gorlawn o arogl-darth,
9yr hyn yw gweddïau’r saint: a chanu caniad newydd y maent, gan ddywedyd, Teilwng wyt i gymmeryd y llyfr, ac i agoryd ei seliau; canys lladdwyd Di, a phrynaist i Dduw, â’th waed, allan o bob llwyth a thafod a phobl a chenedl,
10a gwnaethost hwynt i’n Duw yn deyrnas ac yn offeiriaid; a theyrnasant ar y ddaear.
11A gwelais, a chlywais lais angylion lawer ynghylch yr orsedd-faingc a’r anifeiliaid a’r henuriaid; ac yr oedd eu rhifedi yn fyrddiynau o fyrddiynau, a miloedd o filoedd,
12yn dywedyd â llais mawr, Teilwng yw’r Oen a laddwyd, i dderbyn y gallu a golud a doethineb ac anrhydedd a gogoniant a bendith.
13A phob peth creedig y sydd yn y nef, ac ar y ddaear, a than y ddaear, ac ar y môr, a’r pethau ynddynt, bob un o honynt, a glywais yn dywedyd, I’r Hwn sy’n eistedd ar yr orsedd-faingc, ac i’r Oen, bydded y fendith a’r anrhydedd a’r gogoniant a’r nerth yn oes oesoedd.
14A’r pedwar anifail a ddywedasant, Amen; a’r henuriaid a syrthiasant i lawr ac a addolasant.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.