1Ond fe ddaw allan wialen o gyff Iesse,
A Blaguryn o’i wraidd ef a ffrwytha;
2Ac fe orphwys arno ef yspryd Iehofah,
Yspryd doethineb a deall, yspryd cyngor a chadernid,
Yspryd gwybodaeth ac ofn Iehofah;
3Ei syniad fydd yn ofn Iehofah,
Ac nid wrth olwg ei lygaid y barn efe,
Nac wrth glywed ei glustiau yr argyhoedda efe.
4Ond efe a farn, mewn cyfiawnder, y tlodion,
Ac a argyhoedda mewn uniondeb dros rai llariaidd y ddaear,
Ac a dery ’r ddaear â gwïalen ei enau,
Ac âg anadl ei wefusau y lladd efe ’r anwir.
5A chyfiawnder fydd gwregys ei lwynau ef,
A ffyddlondeb gwregys ei arennau.
6Ac fe drig y blaidd gyd â’r oen.
A’r llewpard gyda’r mynn a orwedd,
A’r llo, a chenau ’r llew, a’r ych pasgedig (fyddant) ynghŷd,
A bachgen bychan a’u harwain;
7A’r fuwch a’r arth a borant ynghŷd,
Ynghŷd y gorwedd eu llydnod,
A’r llew, fel yr ŷch, a bawr wellt.
8Ac fe chwery ’r plentyn sugno ar dwll yr asp,
Ac ar ffau ’r wiber yr 2estyn『1yr hwn a ddiddyfnwyd』ei law.
9Ni ddrygant ac ni ddifethant yn fy holl fynydd sanctaidd,
Canys llawn fydd y ddaear o wybodaeth Iehofah,
Megis y dyfroedd ar y môr, yn ei doi.
10A bydd yn y dydd hwnnw
Wreiddyn Iesse, yr hwn a saif yn llumman i’r bobloedd;
Atto ef y cenhedloedd a gyrchant.
A bydd ei orphwysfa ef yn ogoniant.
11 A bydd yn y dydd hwnnw,
Y chwannega Iehofah i fwrw eilwaith Ei law
I feddiannu gweddill Ei bobl,
Y rhai a weddillir, o Assyria, ac o’r Aipht,
Ac o Pathros, ac o Cwsh, ac o Elam,
Ac o Shinear, ac o Hamath, ac o ynysoedd y môr.
12Ac Efe a gyfyd lumman i’r cenhedloedd,
Ac a gynnull grwydriaid Israel,
A gwasgaredigion Iwdah a gasgl Efe
O bedair asgell y ddaear;
13Ac fe ymedy cynfigen Ephraim,
A gorthrymwŷr Iwdah a dorrir ymaith,
Ni chynfigenna Ephraim wrth Iwdah,
Ac ni orthrymma Iwdah Ephraim.
14Ond hwy a ehedant ar derfynau ’r Philistiaid tuâ ’r gorllewin,
Ynghŷd yr yspeiliant feibion y dwyrain;
Edom a Moab fydd gosodfa eu dwylaw,
A meibion Ammon fydd (mewn) ufudd-dod iddynt.
15Ac fe ddifroda Iehofah dafod môr yr Aipht,
Ac Efe a ysgydwa Ei law ar yr afon yn nychryniadau Ei wỳnt,
Ac a’i tery hi yn saith ffrwd,
Ac a wna fyned drosodd mewn esgidiau.
16A bydd prif-ffordd i weddill Ei bobl Ef,
Y rhai a weddillir, o Assyria,
Megis y bu i Israel
Yn y dydd y daeth efe i fynu o dir yr Aipht.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.