1Gwyliwch rhag gwneud eich cyfiawnder ger bron dynion, er mwyn eich gweled ganddynt: onite, gwobr nid oes i chwi gyda’ch Tad yr Hwn sydd yn y nefoedd.
2Gan hyny, pan wnelych elusen, nac udgana o’th flaen fel y mae’r rhagrithwŷr yn gwneud yn y sunagogau ac yn yr heolydd, fel y molianner hwy gan ddynion: yn wir meddaf i chwi, derbyn eu gwobr y maent.
3Ond pan yr wyt ti yn gwneuthur elusen, na wyped dy law aswy pa beth a wna dy ddeheulaw,
4fel y bo dy elusen yn y dirgel, a’th Dad y sy’n gweled yn y dirgel, a dâl i ti.
5 6:5 NOTE to VI. 5. — “Llydanfeydd:” wrongly translated by Bp. Morgan “Heolydd.” Gk. plateiai (from platus — broad); Vulg. plateæ; French, places, answering to London “squares” so far as shape goes. Gesenius says of them “a latitudine dicta. Gen. 19:2. Judg. 19:20. Spatium amplum ad portam urbium orientalium, ubi judicia habebantur et res venales expositæ erant:” Ges. p. 932. “In no passages do they mean Gasse, Strasse, of the Town, but as is evident from Judg. 19:15 — an open place, generally at the gates, sometimes before open buildings;” Handbuch Lament. 2:11. Jer. 5:1, “Seek in the broad places thereof (plateiais, Vul. plateis; Fr. places; Ital. piazze; Morg. heolydd).” Nahum 2:4, broad ways; Morgan prif-ffyrdd. In the Hebrew translation of the N. T. Rehoboth is used in this passage, as in all the preceding ones, equivalent to Llydanfa, from Llydan (as Uchelfa from Uchel). 2 Chron. 32:6, “Convocavit universos in platea portæ civitatis,” Vulg. The word, plateia, is used in nine passages of the N. T. The word translated “Heolydd” in verse 2 is a totally different word from plateiai, yet they are both translated “Heolydd.” It is the same with the English translation. Streets would be convenient to persons proclaiming their wares; but it is the retired corners of the squares that would be used by pretenders to superior holiness, or the Synagogues.A phan weddïoch, na fyddwch fel y rhagrithwŷr, canys carant weddïo yn sefyll yn y sunagogau ac ynghonglau y llydanfeydd, fel yr ymddangosont i ddynion: yn wir meddaf i chwi, derbyn eu gwobr y maent.
6Ond tydi, pan weddïech, dos i mewn i’th ystafell; ac wedi cau dy ddrws, gweddïa ar dy Dad y sydd yn y dirgel; a’th Dad y sy’n gweled yn y dirgel, a dâl i ti.
7A phan weddïoch, na fyddwch siaradus, fel yr ethnigion, canys tybiant mai o herwydd eu haml eiriau y gwrandewir hwynt.
8Na fyddwch, gan hyny, debyg iddynt, canys gŵyr eich Tad pa bethau y mae arnoch eu heisiau cyn i chwi ofyn Ganddo.
9Fel hyn, gan hyny, gweddïwch chwi, Ein Tad, yr Hwn wyt yn y nefoedd, sancteiddier Dy enw.
10Deued Dy deyrnas. Gwneler Dy ewyllys, fel yn y nef, felly hefyd ar y ddaear.
11Ein bara beunyddiol dyro i ni heddyw.
12A maddeu i ni ein troseddau, fel yr ydym ninnau hefyd wedi maddeu i’r rhai a droseddasant i’n herbyn.
13Ac nac arwain ni i brofedigaeth, eithr achub ni oddiwrth y drwg.
14Canys os maddeuwch i ddynion eu camweddau, maddeua hefyd eich Tad y sydd yn y nefoedd i chwi:
15eithr os na faddeuwch i ddynion eu camweddau, eich Tad ni faddeua chwaith eich camweddau.
16A phan ymprydioch, na fyddwch fel y rhagrithwŷr, yn wyneb-drist; canys difetha eu gwynebau y maent, fel yr ymddangosont i ddynion, yn ymprydio: yn wir meddaf i chwi, Derbyn eu gwobr y maent.
17Ond tydi, pan yn ymprydio, enneinia dy ben di, a’th wyneb golch,
18fel nad ymddangosech i ddynion, yn ymprydio, ond i’th Dad y sydd yn y dirgel, a’th Dad y sy’n gweled yn y dirgel, a dâl i ti.
19Na thrysorwch iwch drysorau ar y ddaear, lle y mae gwyfyn a rhwd yn difetha, a lle y mae lladron yn cloddio trwodd ac yn lladratta;
20ond trysorwch iwch drysorau yn y nef, lle nid yw na gwyfyn na rhwd yn difetha, a lle nid yw lladron yn cloddio trwodd nac yn lladratta:
21canys lle y mae dy drysor, yno y bydd dy galon.
22Llusern y corph yw’r llygad; os, gan hyny, dy lygad fydd syml, dy holl gorph fydd yn oleu;
23ond os dy lygad fydd ddrwg, dy holl gorph fydd dywyll; os, gan hyny, y goleuni y sydd ynot fydd yn dywyllwch, y tywyllwch mor fawr yw!
24Nid oes neb a ddichon wasanaethu dau arglwydd; canys un ai y naill a gasa ac y llall a gar efe, neu wrth y naill yr ymlŷn, a’r llall a ddirmyga efe: ni ellwch wasanaethu Duw a mammon.
25O achos hyn meddaf i chwi, na phryderwch am eich bywyd, pa beth a fwyttaoch neu pa beth a yfoch; nac am eich corph, pa beth a wisgoch. Onid yw’r bywyd yn fwy na’r bwyd, a’r corph na’r dillad?
26Edrychwch ar ehediaid y nefoedd, nad ydynt yn hau, nac yn medi, nac yn cywain i ysguboriau, ac eich Tad nefol a’u portha: onid ydych chwi yn rhagori llawer arnynt?
27A phwy o honoch, gan bryderu, a ddichon ychwanegu at ei faintioli un cufydd?
28Ac am ddillad paham y pryderwch? Ystyriwch lili’r maes, y modd y tyfant;
29ni lafuriant, ac ni nyddant ddim; ac yr wyf yn dywedyd wrthych, Nid oedd hyd yn oed Shalomon yn ei holl ogoniant, wedi ymwisgo fel un o’r rhai hyn.
30Ac os llysieuyn y maes y sydd heddyw mewn bod ac y foru i’r ffwrn y’i bwrir, y mae Duw fel hyn yn ei ddilladu, onid llawer mwy y dillada Efe chwi, o rai o ychydig ffydd?
31Am hyny na phryderwch, gan ddywedyd, “Pa beth a fwyttawn?” neu, “Pa beth a yfwn?” neu, “A pha beth yr ymwisgwn?”
32canys yr holl bethau hyn y mae’r Cenhedloedd yn eu ceisio, canys gŵyr eich Tad nefol fod arnoch eisiau y pethau hyn i gyd.
33Ond ceisiwch yn gyntaf Ei deyrnas ac Ei gyfiawnder, a’r rhai hyn oll a roddir attoch.
34Gan hyny na phryderwch am y foru, canys y foru a brydera am dani ei hun; digon i’r diwrnod ei ddrygioni ei hun.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.