Datguddiad 13 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1A gwelais, o’r môr bwystfil a ddaeth i fynu, a chanddo ddeg corn a saith ben, ac ar ei gyrn ddeg meitr, ac ar ei bennau enwau cabledd.

2A’r bwystfil, yr hwn a welais, oedd debyg i lewpard, a’i draed fel yr eiddo arth, a’i safn fel safn llew; a rhoddodd y ddraig iddo ei gallu a’i gorsedd-faingc, ac awdurdod mawr;

3ac un o’i bennau fel wedi ei archolli hyd farwolaeth; a’i bla marwol a iachawyd,

4a rhyfeddodd yr holl ddaear ar ol y bwystfil, ac addolasant y ddraig o herwydd rhoddi o honi ei hawdurdod i’r bwystfil; ac addolasant y bwystfil, gan ddywedyd, Pwy sydd debyg i’r bwystfil? a phwy a fedr ryfela ag ef?

5A rhoddwyd iddo enau yn llefaru pethau mawrion, a chableddau; a rhoddwyd iddo awdurdod i aros ddau fis a deugain;

6ac agorodd ei enau er cabledd yn erbyn Duw, i gablu Ei enw a’i dabernacl, sef y rhai, yn y nef y mae eu trigfa.

7A rhoddwyd iddo wneuthur rhyfel â’r saint ac eu gorchfygu; a rhoddwyd iddo awdurdod dros bob llwyth a phobl ac iaith a chenedl;

8ac ei addoli ef a wnaiff pawb y sy’n trigo ar y ddaear, yr hwn nad ysgrifenwyd ei enw yn llyfr bywyd yr Oen yr Hwn a laddwyd o seiliad y byd.

9Os yw neb a chanddo glust, gwrandawed.

10Os yw neb i gaethiwed, i gaethiwed y cilia; os â chleddyf y lladd neb, y mae rhaid iddo ef gael â chleddyf ei ladd. Yma y mae amynedd a ffydd y saint.

11A gwelais fwystfil arall yn dyfod i fynu o’r ddaear; a chanddo yr oedd dau gorn tebyg i oen, a llefarai fel draig:

12ac awdurdod y bwystfil cyntaf, y cwbl, a arfera efe yn ei wydd, a gwneud y mae i’r ddaear a’r rhai sy’n trigo ynddi, addoli’r bwystfil cyntaf, yr hwn yr iachawyd ei bla marwol;

13a gwneuthur arwyddion mawrion y mae, fel y gwna i dân o’r nef ddisgyn ar y ddaear yngwydd dynion:

14ac ar gyfeiliorn yr arwain y rhai sy’n trigo ar y ddaear o herwydd yr arwyddion y rhai y rhoddwyd iddo eu gwneuthur yngwydd y bwystfil, gan ddywedyd wrth y rhai sy’n trigo ar y ddaear, wneuthur delw i’r bwystfil y sydd a chanddo bla’r cleddyf a byw o hono.

15A rhoddwyd iddo roi anadl i ddelw’r bwystfil, fel y llefarai delw’r bwystfil, ac y parai i gymmaint ag nad addolent ddelw’r bwystfil, gael eu lladd:

16a gwneud y mae i bawb, y bychain a’r mawrion, ac y goludogion a’r tlodion, ac y rhyddion a’r caethion, i roddi iddynt nod ar eu llaw ddehau, neu ar eu talcennau;

17ac na allo neb brynu na gwerthu, oddieithr yr hwn sydd a chanddo y nod, enw’r bwystfil, neu rifedi ei enw.

18Yma y mae’r doethineb. Yr hwn sydd a chanddo ddeall, rhifed rifedi’r bwystfil, canys rhifedi dyn yw; a’i rifedi yw chwe chant a thrugain a chwech.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help