1Yr amser hwnw tebyg fydd teyrnas nefoedd i ddeg o forwynion, y rhai, wedi cymeryd eu llusernau, a aethant allan i gyfarfod â’r priodas-fab;
2a phump o honynt oeddynt ynfyd,
3a phump yn gall, canys y rhai ynfyd, wedi cymmeryd eu llusernau, ni chymmerasant gyda hwynt olew;
4ond y rhai call a gymmerasant olew yn eu llestri ynghyda’u llusernau.
5Ac wrth oedi o’r priod-fab, hepiasant oll, a hunasant.
6Ac ar hanner nos, gwaedd fu, Wele y priodas-fab; deuwch allan i gyfarfod ag ef.
7Yna y cyfododd yr holl forwynion hyny, a thrwsiasant eu llusernau;
8a’r rhai ynfyd a ddywedasant wrth y rhai call, Rhoddwch i ni o’ch olew chwi, canys y mae ein llusernau yn diffoddi.
9Ac attebodd y rhai call, gan ddywedyd, Nid felly, rhag ysgatfydd na byddo digon i ni ac i chwi; ewch yn hytrach at y rhai sydd yn gwerthu, a phrynwch i chwi eich hunain.
10A thra’r oeddynt yn myned ymaith i brynu, daeth y priodas-fab; ac y rhai parod a aethant i mewn gydag ef i’r briodaswledd, a chauwyd y drws.
11Ac wedi hyny dyfod y mae y morwynion eraill hefyd, gan ddywedyd, Arglwydd, Arglwydd, agor i ni.
12Ac efe, gan atteb, a ddywedodd, Yn wir y dywedaf wrthych, nid adwaen chwi.
13Gwyliwch, gan hyny, gan na wyddoch na’r dydd na’r awr.
14Canys yn y modd y bu i ŵr yn myned i wlad ddieithr, alw ei weision ef a thraddodi iddynt ei dda:
15ac i un y rhoddodd bum talent, ac i arall ddwy, ac i arall un, i bob un yn ol ei allu ei hun; ac aeth i wlad ddieithr.
16Yn uniawn yr aeth yr hwn a dderbyniasai’r bum talent, a marchnataodd â hwynt, a gwnaeth bum talent eraill.
17Yn yr un modd hefyd yr hwn a dderbyniasai y ddwy, a wnaeth ddwy eraill.
18Ond yr hwn a dderbyniasai yr un, wedi myned ymaith, a gloddiodd yn y ddaear, ac a guddiodd arian ei arglwydd.
19Ac wedi amser maith, dyfod y mae arglwydd y gweision hyny, ac yn cymmeryd cyfrif â hwynt.
20Ac wedi dyfod atto o’r hwn a dderbyniasai y bum talent, dug atto bum talent eraill, gan ddywedyd, Arglwydd, pum talent a draddodaist i mi; wele, pum talent eraill a ynnillais.
21Dywedodd ei arglwydd wrtho, Da, was da a ffyddlon; ar ychydig y buost ffyddlon, ar lawer y’th osodaf di; dos i mewn i lawenydd dy arglwydd.
22Ac wedi dyfod atto o’r hwn a dderbyniasai y ddwy dalent, dywedodd, Arglwydd, dwy dalent a draddodaist i mi: wele, dwy dalent eraill a ynnillais.
23Dywedodd ei arglwydd wrtho, Da, was da a ffyddlon; ar ychydig y buost ffyddlon, ar lawer y’th osodaf di; dos i mewn i lawenydd dy arglwydd.
24Ac wedi dyfod atto hefyd o’r hwn a dderbyniasai yr un dalent, dywedodd, Arglwydd, adwaenwn di mai gŵr caled wyt, yn medi lle ni heuaist, ac yn casglu lle ni wasgeraist;
25a chan ofni yr aethum a chuddiais dy dalent yn y ddaear; wele, y mae i ti dy eiddot.
26A chan atteb, ei arglwydd a ddywedodd wrtho, Was drwg a diog, gwyddit fy mod yn medi lle ni heuais, ac yn casglu lle ni wasgerais;
27dylesit, gan hyny, roddi fy arian at yr arianwyr, ac ar fy nyfodiad myfi a gawswn yr eiddof gyda llôg.
28Cymmerwch, gan hyny, y dalent oddi arno, a rhoddwch i’r hwn sydd a chanddo y ddeg talent;
29canys i bob un y sydd a chanddo, y rhoddir ac y bydd gorlawnder; ac oddiar yr hwn nad oes ganddo, hyd yn oed yr hyn sydd ganddo a gymmerir oddi arno.
30A’r gwas anfuddiol bwriwch allan i’r tywyllwch mwyaf allanol, yno y bydd y wylofain a’r rhingcian dannedd.
31Ond pan ddelo Mab y Dyn yn Ei ogoniant, a’r holl angylion gydag Ef, yna yr eistedd ar orseddfaingc Ei ogoniant;
32a chyd-gesglir ger Ei fron Ef yr holl genhedloedd, a didola Efe hwynt oddi wrth eu gilydd, fel y mae’r bugail yn didoli’r defaid oddi wrth y geifr;
33ac y gesyd y defaid ar Ei ddeheulaw, ac y geifr ar yr aswy.
34Yna y dywaid y Brenhin wrth y rhai ar Ei ddeheulaw, Deuwch, fendigedigion Fy Nhad, etifeddwch y deyrnas a barottowyd i chwi er seiliad y byd;
35canys chwant bwyd oedd Arnaf a rhoddasoch i Mi i fwytta; syched oedd Arnaf, a diodasoch Fi;
36dieithr oeddwn, a dygasoch Fi i mewn; noeth, a dilladasoch Fi; claf oeddwn, ac ymwelsoch â Mi; yngharchar yr oeddwn, a daethoch Attaf.
37Yna yr ettyb y cyfiawnion Iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, pa bryd y’th welsom Di â chwant bwyd Arnat, ac y’th borthasom;
38neu â syched Arnat, ac y’th ddiodasom; a pha bryd y’th welsom Di yn ddieithr, ac y’th ddygasom i mewn; neu yn noeth, ac y’th ddilladasom;
39a pha bryd y’th welsom Di yn glaf, neu yngharchar, ac y daethom Attat?
40A chan atteb, y Brenhin a ddywaid wrthynt, Yn wir y dywedaf wrthych, Cymmaint ag y’i gwnaethoch i un o’r rhai hyn, Fy mrodyr lleiaf, i Myfi y’i gwnaethoch.
41Yna y dywaid Efe hefyd wrth y rhai ar yr aswy, Ewch oddi Wrthyf, felldigedigion, i’r tân tragywyddol, yr hwn a barottowyd i ddiafol ac i’w angylion;
42canys chwant bwyd oedd Arnaf, ac ni roisoch i Mi i fwytta: syched oedd Arnaf, ac ni ddiodasoch Fi;
43dieithr oeddwn, ac ni ddygasoch Fi i mewn; yn noeth, ac ni ddilladasoch Fi; yn glaf ac yngharchar, ac nid ymwelsoch â Mi.
44Yna yr attebant hwythau hefyd, gan ddywedyd, Arglwydd, pa bryd y’th welsom Di â chwant bwyd Arnat, neu â syched Arnat, neu yn ddieithr, neu yn noeth, neu yngharchar, ac na weiniasom i Ti?
45Yna yr ettyb Efe iddynt, Yn wir y dywedaf wrthych, Cymmaint ac nis gwnaethoch i un o’r rhai lleiaf hyn, i Mi nis gwnaethoch mo’no.
46Ac ymaith yr aiff y rhai hyn i gospedigaeth dragywyddol, ond y cyfiawnion i fywyd tragywyddol.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.